Gofyn i drigolion Y Trallwng am adborth ar gynllun i gryfhau coedwig ac amgylchedd lleol

Coedwig Breidden

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i bobl yn ardal Y Trallwng i roi eu barn ar gynllun i reoli coedwigaeth leol.

Byddai'r cynllun yn gweld coetir hynafol yn cael ei adfer i rannau helaeth o Goedwig Breidden a chreu coridorau coetir newydd i ganiatáu i rywogaethau brodorol ledaenu ar draws yr ardal. Mae cyflenwad cynaliadwy o bren hefyd yn brif amcan yn y cynllun.

Mae'r ymgynghoriad yn cwmpasu ardal 253 hectar o goedwig sy'n cynnwys y rhan fwyaf o Goedwig Breidden.

Mae CNC - sy'n rheoli Ystâd Goed Llywodraeth Cymru - yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhoi cyfle i drigolion ddylanwadu ar reolaeth y goedwig yn y am y ddegawd nesaf a thu hwnt.

Dywedodd Glyn Fletcher, Uwch Reolwr Tir CNC:
"Mae coedwig sydd wedi'i chynllunio a'i rheoli'n dda yn sicrhau bod pawb a phopeth yn elwa.
"Drwy cydbwyso’n gywir, gallwn sicrhau bod bioamrywiaeth leol a'r amgylchedd yn gallu elwa tra ein bod hefyd yn creu lleoedd prydferth i ymweld â nhw a lleoedd sy’n cynhyrchu pren cynaliadwy.
"Ry'n ni am i bobl sy'n byw yn ardal Y Trallwng a Choedwig Breidden edrych ar ein cynllun ac i roi eu barn amdano. Nid yw'r cynllun wedi'i gadarnhau, a gallwn wneud newidiadau yn seiliedig ar adborth."

Mae modd darllen ac ymateb i'r cynlluniau drwy ymweld â gwefan ymgynghori CNC ynglŷn â: https://bit.ly/CACTrallwng.

Fel arall, gall breswylwyr ffonio 0300 065 3000 a gofyn i siarad ag un o'r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy'n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Gall swyddog anfon copïau caled o'r dogfennau ar gais.

Gall preswylwyr sydd am anfon adborth drwy'r post ei anfon at: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, SA20 0AL.

Bydd angen dychwelyd yr adborth a'r cwestiynau erbyn 20 Tachwedd 2022 fan bellaf.