Gwaith i reoli coed llarwydd heintiedig yn Fforest Fawr

Llun o lwybr cerdded yn arwain i mewn i'r goedwig

Bydd contractwyr sy'n gweithio ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau cael gwared ar goed llarwydd heintiedig o Fforest Fawr, Tongwynlais ar gyrion Caerdydd ar 27 Medi.

Bydd rhan helaeth o Fforest Fawr ar gau am tua chwe mis i gwblhau'r gwaith er mwyn sicrhau diogelwch y gweithwyr a'r bobl sy'n ymweld â'r goedwig.

Bydd maes parcio'r goedwig yn parhau i fod ar agor tra bydd y gwaith yn digwydd ond bydd llawer o'r llwybrau cerdded a hawliau tramwy cyhoeddus yn cael eu cau neu eu dargyfeirio, gan gynnwys y Llwybr Cerfluniau poblogaidd.

Bydd y coed llarwydd sy'n cael eu cwympo yn cael eu storio wrth ymyl ffordd y goedwig ac yna'n cael eu symud o'r safle gan lorïau.

Meddai Chris Rees, Arweinydd Tîm Gweithrediadau Coedwigoedd CNC:

"Mae Fforest Fawr yn lle poblogaidd iawn i ymweld gan ei fod yn cynnig porth i bobl archwilio'r awyr agored a mwynhau byd natur - a dim ond dafliad carreg i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf poblog yn y wlad.
"Gall safleoedd cynaeafu fod yn lleoedd hynod o beryglus felly mae’n bwysig bod pobl yn dilyn yr holl arwyddion cau a gwyriadau ac unrhyw gyfarwyddiadau gan weithwyr ar y safle.
"Wrth i ni barhau â'n gwaith cwympo coed ledled Cymru i fynd i'r afael â’r clefyd sy’n effeithio ar goed llarwydd, mae cael gwared ar y coed sydd wedi'u heintio yn rhoi cyfle i ni ail-greu cynefin coetir brodorol gwydn ar draws llawer o'r coedwigoedd cyhoeddus er budd bywyd gwyllt ac i genedlaethau'r dyfodol barhau i'w mwynhau."

Ar ôl i'r cynaeafu ddigwydd, bydd CNC yn monitro adferiad y coetir ac yn annog rhywogaethau brodorol fel ffawydd, derw, bedw, ceirios gwyllt, criafol a chyll i adfywio'n naturiol er mwyn helpu i ailadeiladu ecosystem coetir gwydn.

Arwydd cynnar o gwympo blaenorol yn 2018 yw bod ardaloedd sylweddol o adfywio naturiol yn digwydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.cyfoethnaturiol.cymru/cwympocoedfforestfawr