Gofyn i drigolion Cwm Ystwyth am farn ar gynllun newydd i reoli coedwigoedd lleol

Golygfa o Gwm Ystwyth

Mae trigolion Cwm Ystwyth yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynllun newydd i reoli Coedwig Ystwyth, ger Aberystwyth.

CNC sy’n rheoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru ledled y wlad, ac mae’n cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn galluogi pobl i ddylanwadu ar y modd y rheolir y goedwig yn y deng mlynedd nesaf a thu hwnt.

Dywedodd Jim Ralph, Uwch Reolwr Tir ar ran CNC:
"Mae pawb yn elwa o goedwig a reolir yn dda: mae'n darparu mannau gwyrdd i bobl eu mwynhau, pren cynaliadwy, mae’n dal a storio carbon ac mae manteision i fioamrywiaeth leol.
"Rydym yn gofyn i drigolion lleol gael golwg ar y cynlluniau rydym wedi'u llunio i reoli Coedwig Ystwyth ac i roi eu barn i ni arni. Nid yw'r cynlluniau wedi'u cadarnhau a byddant yn ceisio gwneud newidiadau yn seiliedig ar adborth.”

Gall preswylwyr ddod o hyd i'r cynlluniau ac ymateb i'r ymgynghoriad drwy fynd i wefan ymgynghori CNC ar: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/forest-planning-cynllunio-coedwig/cynllun-adnoddau-coedwig-cwm-ystwyth

Fel arall, gall trigolion ffonio 0300 065 3000 a gofyn i gael siarad ag un o’r Uwch Swyddogion Rheoli Tir sy’n gyfrifol am yr ymgynghoriad. Wedyn bydd modd gofyn am gopïau o’r dogfennau drwy’r post.

Gall trigolion sy’n dymuno cyflwyno sylwadau eu hanfon i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Heol Llanfair, Llanymddyfri, Sir Gar, SA20 0AL.

Bydd yn rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau neu gwestiynau erbyn 21 Tachwedd 2021.