Polisi canllawiau gorfodi a sancsiynau - atodiad 3 y sail dros apelio yn erbyn sancsiynau a osodir o dan y Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau
Rhestrir y sail dros apelio yn erbyn sancsiynau unigol a osodir o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau isod
Cosbau ariannol penodedig
- Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod y penderfyniad yn afresymol
- Unrhyw reswm arall
Cosbau ariannol amrywiadwy
- Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod swm y gosb yn afresymol
- Yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol
- Bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall
Hysbysiadau cydymffurfio ac adfer
- Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Yn achos gofyniad anariannol, bod natur y gofyniad yn Afresymol
- Bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall
Cosbau am beidio â chydymffurfio
- Bod y penderfyniad i gyflwyno'r hysbysiad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol am unrhyw reswm
- Bod swm y gosb yn afresymol
- Unrhyw reswm arall
Hysbysiadau adennill cost gorfodaeth
- Yn erbyn ein penderfyniad i osod y gofyniad i dalu costau
- Yn erbyn ein penderfyniad ynghylch swm y costau hynny
- Unrhyw reswm arall
Tystysgrif gwblhau ymgymeriad gorfodi
- Bod y penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol
- Bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall
Hysbysiadau stop
- Bod y penderfyniad yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod y penderfyniad yn afresymol
- Bod unrhyw gam a nodir yn yr hysbysiad yn afresymol
- Nad yw’r unigolyn wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno
- Na fyddai'r unigolyn, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i'w gael yn euog o drosedd pe na bai'r hysbysiad stop wedi'i gyflwyno
- Unrhyw reswm arall
Tystysgrif gwblhau hysbysiad stop
- Bod y penderfyniad i beidio â rhoi tystysgrif gwblhau yn seiliedig ar gamgymeriad ffeithiol
- Bod y penderfyniad yn groes i’r gyfraith
- Bod y penderfyniad yn annheg neu'n afresymol
- Bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall
Digolledu
Gall unigolyn apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu swm y digollediad:
- Ar y sail bod ein penderfyniad yn afresymol
- Ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir
- Am unrhyw reswm arall
Archwilio mwy
Diweddarwyd ddiwethaf