Roedd Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn gynllun gwerth £5.2 miliwn, a ariannwyd gan gronfa LIFE yr UE gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a fu’n weithredol am 6.5 mlynedd rhwng 1 Medi 2017 a 30 Mehefin 2024. Llwyddodd y prosiect i adfer mawndiroedd ar draws 6 safle cyforgors Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru, a chafodd y prosiect ei reoli gan CNC, gyda chefnogaeth Parc Cenedlaethol Eryri.
ACA Cors Caron UK0014790
ACA Cors Fochno UK0014791
ACA Cors Goch Trawsfynydd UK0030075
ACA Rhos Goch UK0014792
SoDdGA Esgyrn Bottom (rhan o ACA Afonydd Cleddau) UK0030074
ACA Cernydd Carmel UK0030070
Yn anffodus, ni fu modd gwneud gwaith ar gyforgors Waun Ddu (rhan o ACA Safleoedd Ystlumod Wysg).
At ei gilydd, cafodd 998 hectar o gynefin cyforgors ei wella drwy gyflawni’r canlynol:
Dros 140,000m o fyndiau mawn a 150 o argaeau mawn, gan helpu i godi a sefydlogi lefelau dŵr ar y mawndir.
676 hectar o waith rheoli prysgwydd, gan gynnwys bedw, helyg, conwydd, a rhododendron estron goresgynnol
Torri dros 100 hectar o wellt y gweunydd trwchus a dominyddol gan ddefnyddio’r peiriant Pisten Bully a brynwyd gan y prosiect.
Mae gwaith monitro lefelau dŵr wedi dangos cynnydd rhwng 4cm-10cm yn lefelau dŵr cymedrig blynyddol yn dilyn gwaith adfer, gan hybu llawer mwy o allu i wrthsefyll sychder yn yr haf yn y dyfodol a darparu amodau addas ar gyfer adfer cynefinoedd. Ac mae gwaith monitro nwyon tŷ gwydr yn dangos bod y gwaith wedi lleihau allyriadau carbon o safleoedd y prosiect.
Llwyddodd y prosiect i ymgysylltu â dros 25,000 o bobl dros y 6.5 mlynedd, gan wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o fawndiroedd ledled Cymru, y DU ac Ewrop, trwy ddigwyddiadau, gweminarau a chynnwys ar-lein.