Asesu gweithgareddau pysgota Cymru
Ynglŷn â’r prosiect
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i werthuso effaith pysgota ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
Bydd yr allbynnau o Brosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn:
- Sicrhau ein bod yn diogelu ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
- Cyfrannu at ddefnyddio pysgod môr yn gynaliadwy
- Sicrhau bod yr amgylchedd morol yn fwy sefydlog
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cynnal nifer o asesiadau, gan ddechrau gyda’r hyn sydd â’r risg mwyaf, megis offer symudol ar gynefinoedd riff sensitif. Mae deugain o’r rhain sydd wedi eu hasesu bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’w gweld ar gwaelod y dudalen yma.
Bydd allbynnau’r Prosiect hwn yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy gyfrannu at y broses o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy.
Cewch wybod mwy o fanylion yn y dogfennau y byddwn yn eu defnyddio i lywio’r gwaith asesu:
- Adroddiad Egwyddorion a Blaenoriaethu (Saesneg yn unig)
- Matrics
- Cronfa Ddata Tystiolaeth
Canlyniadau'r prosiect
Roedd Prosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn archwilio sut y gallai gweithgareddau pysgota ryngweithio â chynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig yn nyfroedd Cymru.
Nododd y prosiect 552 o ryngweithiadau posibl rhwng nodweddion pysgota, a chwblhaodd asesiadau ar gyfer 374 o'r rhyngweithiadau hyn.
Roedd yr asesiadau'n cynnwys:
- 318 o ryngweithiadau pysgota-cynefin, a
- 56 o ryngweithiadau pysgota-rhywogaethau symudol, gan gynnwys pysgod, mamaliaid ac adar
Ni chafodd y rhyngweithiadau sy'n weddill, sydd ar gael yn y Matrics, eu hasesu oherwydd eu bod yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth is yn seiliedig ar ffactorau megis tebygolrwydd y digwyddiad, effaith bosibl, tystiolaeth sydd ar gael a pherthnasedd rheoli.
Mae'r holl asesiadau a gwblhawyd wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru. Mae asesiadau a gyhoeddwyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (LLYW.CYMRU).