Ansawdd dŵr mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonydd

Mae naw afon o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yng Nghymru wedi’u dynodi o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd) (‘Rheoliadau Cynefinoedd’) – Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy. Mae’r afonydd hyn yn cynnal rhai o fywyd gwyllt mwyaf arbennig Cymru fel eog yr Iwerydd, misglen berlog dŵr croyw, cimwch yr afon crafanc wen a llyriad-y-dŵr arnofiol. Mae ansawdd dŵr yn hanfodol i weithrediad systemau afonydd a’r bywyd gwyllt y maent yn ei gynnal. Un o'r sylweddau sy'n peri'r pryder mwyaf yw ffosfforws.

Pam mae ffosfforws mewn afonydd yn broblem

Mae ffosfforws yn digwydd yn naturiol, ac yn cael ei ryddhau'n araf, ar lefelau isel, o ffynonellau naturiol fel erydiad glannau naturiol. Mae gweithgarwch dynol hefyd yn gyfrifol am ryddhau ffosfforws i'r amgylchedd oherwydd y ffordd rydym yn rheoli ein tir a sut rydym yn cael gwared ar ein dŵr gwastraff a'n carthffosiaeth.

Gall crynodiadau uwch o ffosfforws arwain at y broses o ewtroffeiddio a gall achosi difrod ecolegol sylweddol i afonydd gan gynnwys newid cydbwysedd rhywogaethau planhigion yn ein hafonydd.

Ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonydd

Ym mis Ionawr 2021 fe wnaethom gyhoeddi adroddiad lle’r oeddem yn cyflwyno ein hasesiad o gydymffurfiaeth yn erbyn targedau ansawdd dŵr ffosfforws a dynnwyd yn ddiweddar ar gyfer afonydd ACA.

Roedd yn dangos bod dros 60% o gyrff dŵr ACA yn methu’r targedau newydd ar gyfer ffosfforws. Roedd y rhan fwyaf o'r cyrff dŵr a fethodd yng nghanolbarth a de Cymru. Yn nodedig, methodd afon Wysg mewn 88% o'i chyrff dŵr ac ar Afon Gwy a Chleddau canfuwyd nad oedd 60% o gyrff dŵr yn cyrraedd eu targedau. Methodd rhannau o’r Teifi a’r Ddyfrdwy â chyrraedd eu targedau hefyd, ond llwyddodd yr Eden, Gwyrfai, Glaslyn a Thywi i gwrdd â nhw’n llawn.

Darllenwch yr adroddiad ‘Asesiad Cydymffurfiaeth o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonydd Cymru yn erbyn Targedau Ffosfforws’.

Pam y cyflwynwyd y targedau newydd

Mae targedau yn eu lle i warchod yr amgylchedd. Gosodwyd y targedau newydd i ddiogelu afonydd ACA ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar gyngor gan y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC), sy'n cydlynu targedau cadwraeth y DU. Mae'r targedau ffosfforws ACA diwygiedig 50-80% yn dynnach na'r targedau blaenorol ar gyfer yr ACA.

Darllenwch fwy am fonitro safonau cyffredin ar wefan y JNCC

Y sefyllfa gyfreithiol

Yn 2018, cyflwynodd Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ei ddyfarniad ar yr achosion ‘Nitrogen Iseldiraidd’. O ganlyniad i'r penderfyniad, bydd caniatâd i ddatblygiadau newydd a fydd yn arwain at gynnydd mewn maetholion mewn ACA sydd eisoes yn uwch na'r lefelau targed, yn gyfyngedig. Yng Nghymru, mae hyn yn effeithio ar sut y dylid dehongli a chymhwyso'r asesiad o gynlluniau datblygu a phrosiectau o dan y Rheoliadau Cynefinoedd. 

Prosiect Afonydd ACA

Mae prosiect Afonydd ACA wedi’i sefydlu yn CNC i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n ymwneud â sut mae ansawdd dŵr yn cael ei reoli a’i reoleiddio ar draws ein hafonydd ACA yng Nghymru. Mae ei amcanion yn cynnwys:

  • Gweithio gydag eraill i ddatblygu polisi, safbwyntiau, cyngor ac offer newydd i ddiogelu a gwella ansawdd dŵr mewn afonydd ACA
  • Deall ansawdd dŵr ar draws afonydd yr ACA a nodi lle mae angen mesurau gwella
  • Sicrhau bod gennym raglen briodol ar gyfer casglu ac asesu tystiolaeth o ansawdd dŵr yn afonydd yr ACA

Mae'r prosiect yn ehangach na ffosfforws ac mae'n cynnwys y nodweddion ansawdd dŵr eraill. Mae chwech ffrwd gwaith wedi'u nodi i gwmpasu:

  • Datganiadau sefyllfa a chyngor – yn cynnwys cyngor i Awdurdodau Cynllunio Lleol
  • Safonau a chydymffurfiaeth – yn cynnwys gosod targedau a chydymffurfio yn eu herbyn
  • Gwelliannau ansawdd dŵr – yn cynnwys cyngor ar atebion posibl a chyfranogiad mewn Byrddau Rheoli Maetholion
  • Monitro a thystiolaeth – yn cynnwys sicrhau bod rhaglenni monitro yn briodol ac adolygu'r dystiolaeth o ansawdd dŵr a'i effeithiau ar afonydd yr ACA a'u nodweddion
  • Caniatáu - yn cynnwys adolygiad o drwyddedau presennol, y broses drwyddedu a chanllawiau ar gyfer gollyngiadau
  • Deunyddiau i’r tir – yn cynnwys gwasgaru deunyddiau i dir gan gynnwys tail a slyri, defnyddiau gwastraff a llaid.

Beth mae hyn yn ei olygu i Awdurdodau Cynllunio Lleol

Bydd angen i Awdurdodau Cynllunio ystyried y dystiolaeth newydd wrth wneud penderfyniadau cynllunio a bydd angen iddynt fod yn fodlon trwy eu Hasesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) na fydd cynigion datblygu newydd yn arwain at ddifrod i ACA.

Darllenwch fwy am ein cyngor i awdurdodau cynllunio

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer caniatáu

Bydd angen i CNC ystyried y dystiolaeth a’r targedau newydd wrth gwblhau Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i gefnogi ein hasesiad o geisiadau am drwydded.

Bydd angen i ni hefyd adolygu a yw'r terfynau allyriadau ar gyfer gollyngiadau i ddalgylch ACA sydd wedi'u cynnwys yn y trwyddedau gollwng a gosod dŵr presennol yn ddigon amddiffynnol i gefnogi cyflawniad ei amcanion cadwraeth.

Darllenwch fwy am ein cyngor ar drwyddedu

Ffermio ac amaethyddiaeth

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar amrywiaeth o faterion ffermio a rheoli tir, gan gynnwys gwaredu dip defaid gwastraff, cael gwared ar ddiheintydd a storio silwair a slyri ar ein tudalen ffermio.

Ewch i'n tudalen canllawiau ffermio a rheoli tir

Beth rydym yn ei wneud i wella ein ACA?

Rydym yn datblygu dull cyfunol o ddatblygu atebion hirdymor ar raddfa ddalgylch i fynd i’r afael â phroblemau maetholion yn ein hafonydd ACA yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio, Dŵr Cymru/Welsh Water a’r sector ffermio i ddatblygu atebion a fydd yn cyflawni hyn.

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi sefydlu Grŵp Goruchwylio i ddarparu llywodraethu lefel uchel gan fod y mater yn effeithio ar lawer o sectorau. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o adrannau polisi perthnasol LlC a rhanddeiliaid allweddol i ddarparu ffocws ar gyfer ymateb aml-sector cydweithredol. 

Cynlluniau Rheoli Basn Afon

Mae'r Cynlluniau Rheoli Basn Afon (CRhBA) yng Nghymru yn amlinellu rhaglen o fesurau sydd eu hangen i atal dirywiad pellach, gweithio tuag at gyflawni statws cyffredinol da a chefnogi cyflawniad amcanion cadwraeth ar gyfer afonydd ACA.

Darllenwch fwy am y Cynlluniau Rheoli Basn Afon.

Prosiectau LIFE

Wedi’i ariannu’n wreiddiol gan gronfa Natur a Bioamrywiaeth Ewropeaidd LIFE, dechreuodd prosiect LIFE Afon Dyfrdwy ym mis Medi 2019 a bydd yn rhedeg am 5 mlynedd. Cyfanswm gwerth y prosiect yw tua £7miliwn gyda chyllid ychwanegol gan CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru (DCWW) ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Darllenwch fwy am Brosiect LIFE Afon Dyfrdwy

Mae CNC wedi derbyn y cytundeb grant ar gyfer prosiect adfer afonydd mawr ar draws pedair afon ACA: Teifi, Tywi, Cleddau ac afon Wysg sydd â’r nod o wella cyflwr cynefinoedd yr afon a’r rhywogaethau gwarchodedig y maent yn eu cynnal. Cyfanswm gwerth y prosiect yw £9.13m; mae hyn yn cael ei ariannu 60% gan yr UE a 40% gan bartneriaid y prosiect: CNC, Llywodraeth Cymru, DCWW, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Coed Cadw, Canolfan Adfer Afonydd a Choleg Sir Gâr.

Prosiectau adfer afonydd

Yn ogystal â’r uchod, rydym yn datblygu ein rhaglen Adfer Afonydd ledled Cymru, gan gynnwys gwaith adfer mewn rhai o’n hafonydd ACA nad ydynt yn dod o dan gyllid LIFE. Mae cyllid eisoes wedi’i sicrhau ar gyfer cynllunio a chyflawni gwaith adfer afonydd yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Eden, Dyfrdwy, Cleddau, Teifi, Tywi ac Wysg. 

Rheoli digwyddiad

Gall digwyddiadau llygredd beryglu ansawdd dŵr a gallu afonydd ACA i gyflawni statws cadwraeth ffafriol. Felly, mae rheoli digwyddiadau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau achosion yn rhan allweddol o'n gwaith. Rydym yn ymateb i achosion o lygredd amgylcheddol yr adroddir amdanynt 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ein dull integredig o gategoreiddio digwyddiadau yn ein galluogi i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg i flaenoriaethu ein gwaith i sicrhau ein bod yn sicrhau’r manteision mwyaf i amgylchedd, pobl ac economi Cymru.

Atal digwyddiadau rhag digwydd yn y lle cyntaf yw ein nod, sef sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n briodol, ac mae’n rhan gynhenid o’n gwaith paratoi a rheoleiddio ar gyfer digwyddiadau. 

Dalgylchoedd Cyfle

Mae rhannau o afonydd ACA Dyfrdwy, Wysg, Gwy, Teifi a Chleddau yn dod o fewn ffin Dalgylchoedd Cyfle CNC a nodir yn y CRhBA. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar sicrhau buddion lluosog tymor hwy i gyrff dŵr, cynefinoedd a rhywogaethau sy’n dibynnu ar ddŵr, a llesiant.

Bydd camau gweithredu'n cael eu cynnwys i sicrhau iechyd a gwydnwch afonydd ehangach yn ogystal â'r rhai sydd â'r nod o leihau mewnbynnau maetholion a gwella ansawdd dŵr.

Darganfod mwy am ddalgylchoedd cyfle

Diweddarwyd ddiwethaf