Ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau
Ni yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd, natur a llygredd.
Mae’r gwaith a wnawn i warchod a gwella amgylchedd Cymru yn effeithio ar bopeth sydd bwysicaf – ein cymunedau, ein bywyd gwyllt a’n dyfodol.
Ein cenhadaeth
Canolbwyntio ein dyheadau a’n camau gweithredu ar y cyd ar:
drwy reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Ein gwaith
Ar hyn o bryd rydym yn:
- rheoli 7% o dir Cymru, gan gynnwys Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, amddiffynfeydd rhag llifogydd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
- prosesu dros 7,000 o adroddiadau am ddigwyddiadau bob blwyddyn
- cynghori fel aelod o bob un o’r 15 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru
- cynnal 455 km o amddiffynfeydd rhag llifogydd
- rheoli 56 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol (rhai mewn partneriaeth ag eraill) a thair canolfan ymwelwyr.
Dysgwch fwy yn ein hadroddiad ar berfformiad 2022-23.
Ein diben
Ein diben craidd yw mynd ar drywydd Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Rydym yn:
- ymatebwr brys Categori Un o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, yn gweithio gyda phartneriaid i gadw pobl a bywyd gwyllt yn ddiogel rhag digwyddiadau amgylcheddol 24/7.
- cynghorydd, ymgynghorai a rheoleiddiwr, yn gweithio gyda diwydiant i’w helpu i gydymffurfio â rheoliadau.
- rheolwr tir mwyaf Cymru, yn cefnogi’r sectorau pren, ynni adnewyddadwy a hamdden.
- dynodwr safleoedd gwarchodedig ac arbennig, er enghraifft Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
- gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, ymchwil ac arbenigedd ein staff er budd cymunedau Cymru a’r amgylchedd.
Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu’r hyn y mae am i ni ei gyflawni yn llythyr cylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru tymor y Llywodraeth 2022 i 2026.
Mae dogfen fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru ar gael ar gais.