Pam y thema hon?


Mae'r De Cymru sy'n bodoli heddiw llawer yn lanach na De Cymru'r 1960au, er enghraifft. Pam? Oherwydd bod y diwydiannau trwm traddodiadol wnaeth osod yr ardal ar y map ar un adeg wedi diflannu i bob pwrpas.

Er gwaethaf hyn, mae gan rannau o Gymru yr ansawdd aer gwaethaf ym Mhrydain o hyd. Mae hyn yn cyfrannu at oddeutu 1,000 - 1,400 o farwolaethau bob blwyddyn ac, yn y gorffennol, arweiniodd at achosion o dorri rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd yn rheolaidd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi mynd mor bell â disgrifio'r sefyllfa fel argyfwng iechyd cyhoeddus, gan gydnabod y cyswllt sydd gan lygredd aer ag iechyd gwael ac amddifadedd. I ddweud y gwir, amcangyfrifwyd bod llygredd aer yn costio £1 biliwn bob blwyddyn i Gymru o ran colli diwrnodau gwaith a chostau i'r gwasanaeth iechyd.

Fel ardal fwyaf poblog y wlad, sy’n cynnwys nifer o brif ffyrdd trafnidiaeth pwysig ac ardaloedd â phroblemau traffig nodweddiadol, mae'n gwneud synnwyr na ellir anwybyddu problemau ynghylch ansawdd aer yng Nghanol De Cymru. Wedi dweud hynny, nid trafnidiaeth yw'r unig ffactor cyfrannol. Mae newidiadau mewn arferion amaethyddol wedi chwarae eu rhan, fel y mae diwydiant a thanau gwyllt sy'n digwydd ar adegau penodol o'r flwyddyn.

Yn gyffredin â'r themâu eraill yn ein Datganiad Ardal, mae Canol De Cymru yn cynnig y dylid mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig er mwyn gwrthsefyll ansawdd aer gwael, gan ddatblygu ffyrdd newydd o weithio yn fewnol a chyda phartneriaid strategol er mwyn gwella ansawdd aer ym mhob man, ac nid dim ond yn yr ardaloedd â’r problemau llygredd mwyaf neu o amgylch yr ardaloedd hynny.


Sut olwg fyddai ar lwyddiant?


Mae  datguddiad i lygryddion aer yn gofyn am gamau gweithredu gan awdurdodau cyhoeddus ar bob lefel – lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, a hyd yn oed yn rhyngwladol. Mae dull amlsector tuag at atal a lleihau allyriadau yn angenrheidiol er mwyn datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau hirdymor yn effeithiol. Cefnogir y dull hwn ledled Cymru drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Gyda hyn mewn golwg, mae'n rhaid i ni nodi cyfleoedd a ffyrdd o integreiddio'r wybodaeth a'r dystiolaeth a gynhwysir yn ein Datganiad Ardal ac mewn mannau eraill i brosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau presennol.

Ar lefel strategol, byddai llwyddiant yng Nghanol De Cymru yn golygu ymgorffori’r amgylchedd naturiol ac ecosystemau yn llwyr yn y dull gweithredu amlsector hwn, gyda mesurau’n cael eu cymryd er mwyn gwella gwydnwch ecosystemau yn unol â Pholisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru yn 2017. Byddai hynny, yn ei dro, yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid i ddarparu datrysiadau sy'n seiliedig ar natur sydd o fudd i ansawdd ein haer, gan gyfeirio at fecanweithiau a nodir yn ail thema ein Datganiad Ardal (Cysylltu pobl â natur).

Mae datrysiadau sy'n seiliedig ar natur a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol yn cynnwys gorchudd canopi gwell a choetir sydd wedi'i leoli'n strategol, yn ogystal â chynnydd yn yr hyn y cyfeirir ato weithiau fel ‘seilwaith gwyrdd’. Mae hwn yn derm sy'n cwmpasu ystod eang o nodweddion naturiol a lled- naturiol, gofodau, afonydd a llynnoedd gan gynnwys parciau, caeau, rhandiroedd, gwrychoedd, ymylon ffyrdd, gerddi a systemau draenio cynaliadwy, heb sôn am ecosystemau cyfan megis gwlypdiroedd, dyfrffyrdd a mynyddoedd.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?


Nodwyd y thema hon ar sail tystiolaeth a gasglwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'i darparu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (Nod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yw gwella cydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus o fewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru). Roedd cydweithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, yn lleol ac yn genedlaethol, ynghyd ag arbenigwyr amgylcheddol allanol o'r un farn bod angen mynd i'r afael ag ansawdd aer yng Nghanol De Cymru, a'r effaith y mae'n ei chael arnom, yn unol â deddfwriaeth Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Nod ein Datganiad Ardal yw ategu ac ychwanegu gwerth gan sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn chwarae rôl flaenllaw yn y broses gwneud penderfyniadau ynghylch sut y gellir gwella ansawdd aer ledled Canol De Cymru. Hyd yn hyn rydym wedi gweithio gyda’r canlynol:

  • Un Blaned Caerdydd (Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd), gan gefnogi menter Aer Glân Caerdydd

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi bod yn weithredol iawn o ran codi ymwybyddiaeth o ansawdd aer fel problem, yn ogystal â chynnal ymchwil a gweithredu mewn modd cadarnhaol

  • Llywodraeth Cymru, sydd wrthi’n datblygu ‘Cynllun Aer Glân i Gymru’ a fydd yn cynnig ystod o gamau a gynlluniwyd i wella ansawdd aer

Beth yw'r camau nesaf?


I gychwyn, byddwn yn parhau i weithio gydag Un Blaned Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein Datganiad Ardal yn ychwanegu gwerth (e.e. menter Aer Glân Caerdydd) i broses ymgynghori ‘Cynllun Aer Glân i Gymru’. Wrth wneud hyn, rydym yn rhagweld y bydd meysydd ffocws eraill yn cael eu nodi, gan arwain yn eu tro at fwy o ymgysylltiad â rhanddeiliaid gan gynnwys awdurdodau lleol.

Yn dilyn y broses ymgynghori ar gyfer ‘Cynllun Aer Glân i Gymru’, byddwn yn defnyddio'r hyn a elwir yn ‘fethodoleg theori newid’ - gweithdrefn a ddefnyddir yn eang gan sefydliadau i ddiffinio nodau hirdymor ynghylch cynllunio, cyfranogi a gwerthuso - er mwyn penderfynu ar yr hyn y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill ei wneud i wella ansawdd aer drwy gymhwyso'r un datrysiadau sy'n seiliedig ar natur a amlinellir uchod o dan ‘Sut olwg fydd ar lwyddiant?’ Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill i asesu ac ehangu'r ‘seilwaith gwyrdd’, gan gydweithio hefyd â thirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i ddatblygu Cynllun Creu Coetir sydd â’r nod o wella gwydnwch ecosystemau. 

Mae'n werth nodi bod yr heriau cenedlaethol a'r cyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy sy'n berthnasol i'r thema hon, fel y nodir yn y Polisi Adnoddau Naturiol, yn cynnwys (a) lleihau llygredd sŵn a lefelau llygredd yn ein haer, a gwella ansawdd aer, a (b) cefnogi dulliau ataliol ar gyfer canlyniadau iechyd, gyda ffocws penodol ar faterion iechyd cyhoeddus allweddol sy'n ymwneud â llygredd aer a sŵn a achosir gan drafnidiaeth, yn ogystal â mynd i'r afael ag anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl.  Mae hefyd yn gysylltiedig iawn â chymryd camau i leihau'r pwysau ar adnoddau naturiol, er enghraifft, drwy effeithlonrwydd adnoddau ac ynni adnewyddadwy.


Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?


Fel yr amlinellir uchod, mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei ‘Chynllun Aer Glân i Gymru’. Nod y rhaglen yw datblygu a gweithredu camau sy'n ofynnol ar draws adrannau a sectorau Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud ein haer yn lanach. Mae cyfansoddion craidd y rhaglen yn cynnwys Cynllun Aer Glân a Pharthau Aer Glân. Mae Parthau Aer Glân yn cynnwys ymyriadau amrywiol sy'n gofyn am newid mewn arferion a mabwysiadu dull cydgysylltiedig, amlsector er mwyn lleihau llygredd aer. Er mai nod uniongyrchol y rhaglen fydd sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau ansawdd aer presennol, mae'n alinio er hynny â dull y Datganiadau Ardal.

O safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r broses ymgynghori ynghylch rhaglen ‘Aer Glân i Gymru’ yn cynnig cyfle i'n Datganiad Ardal ymuno â’r ddadl ehangach ynghylch ansawdd aer ac ychwanegu gwerth ati, gan sicrhau bod datrysiadau sy'n seiliedig ar natur yn ffurfio rhan annatod o'r hyn sydd i ddod.

Drwy gysylltu Datganiadau Ardal â'r agenda iechyd cyhoeddus, bydd yr amgylchedd naturiol yn chwarae rhan amlwg mewn trafodaethau, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffurfio partneriaethau teg sy'n gosod yr amgylchedd naturiol wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau.

Sut all pobl gymryd rhan?


Yng Nghanol De Cymru, rydym yn ymrwymedig i weithio mewn modd agored a thryloyw. Gan ystyried hynny, rydym am annog pobl i gyfrannu at wella ansawdd ein haer. Mae proses y Datganiadau Ardal yn ein galluogi i sefydlu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cael eu nodi wrth i ni ddatblygu’r camau nesaf. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth, ebostio ni ar southcentral.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhowch adborth 

A ddaethoch o hyd i'r hyn yr oeddech yn edrych amdano?
Ble mae angen eglurhad pellach arnoch chi?
Beth ydych chi'n ei feddwl am ein hasesiad o'r risgiau, blaenoriaethau, a'r cyfleoedd yn yr Ardal hwn?
Oes rhywbeth ar goll? Sut allwn ni eu gwella?
Sut allech chi fod yn rhan o hyn?
Hoffech chi gael ateb?
Eich manylion

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf