Sut yr ydym yn prynu’r hyn sydd ei angen arnom

Gwerthu i Cyfoeth Naturiol Cymru

Wrth brynu nwyddau, gwaith a gwasanaethau, gall ein staff ddefnyddio cytundeb / fframwaith sy’n bodoli eisoes pan fo’n briodol i sicrhau bod y broses brynu yn fwy effeithiol. 

Gallai’r rhain fod yn gytundebau penodol i ni neu gytundebau eraill sydd ar gael i gyrff y sector cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol: hwn yw’r corff prynu canolog sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn defnyddio amryw o gytundebau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer y pethau yr ydym yn eu prynu amlaf.
  • Gwasanaethau Masnachol y Goron: asiantaeth weithredol Swyddfa’r Cabinet yw hon sy’n darparu set o gytundebau a gafodd eu tendro ymlaen llaw ag amrediad o gyflenwyr y gall cwsmeriaid sector cyhoeddus brynu ganddynt.
  • Eastern Shires Purchasing Organisation: sefydliad prynu proffesiynol yw hwn sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus a chanddo fwy na 150 o fframweithiau.


Ein trothwyon prynu 

  • Dan £5,000 - Pan nad oes cytundeb / fframwaith priodol yn bodoli, gall staff gael un dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr. Staff yn dewis cyflenwr yn seiliedig ar wybodaeth o’r farchnad.

  • £5,000 hyd at £25,000 - Pan nad oes cytundeb / fframwaith addas yn bodoli, gall staff gael tri dyfynbris ysgrifenedig gan gyflenwyr. Mae’n ofynnol i staff gynnal cystadleuaeth yn seiliedig ar wybodaeth o’r farchnad. Ar brydiau bydd staff yn defnyddio’r cyfleuster ‘Dyfynbris Cyflym’ o fewn GwerthwchiGymru i hysbysebu gofynion gwerth isel.

  • Mwy na £25k - Rydym yn hysbysebu’r holl gytundebau / fframweithiau ar wefan GwerthwchiGymru. Os hoffech gofrestru fel un o’n cyflenwyr posibl, ewch i wefan GwerthwchiGymru. Mae GwerthwchiGymru yn rhestru’r tendrau sector cyhoeddus a gyhoeddir yng Nghymru. Menter Llywodraeth Cymru yw hon sy’n helpu busnesau bychain a chanolig i weithio’n llwyddiannus gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd pryniannau sy’n uwch na’r trothwyon canlynol yn ddibynnol ar Reoliadau Cytundebau Cyhoeddus llawn 2015 a byddant yn cael eu hysbysebu yng Nghylchgrawn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd – Nwyddau a Gwasanaethau - £106k a Gwaith - £4.1 miliwn.


Cyfleoedd i’r dyfodol

Os hoffech ddysgu mwy am y contractau sy’n dod a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Sell2Wales, gweler diweddariadau piblinell caffael. Cofiwch y gallai’r rhain newid.

Polisïau

Er mwyn cyflawni caffael cynaliadwy rydym wedi ymrwymo i ymgorffori polisïau perthnasol i’n prosesau caffael, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

Talu

Diweddarwyd ddiwethaf