Contractau CNC sy’n dod – Piblinell caffael 2024-25
Categori | Teitl y contract | Disgrifiad byr o'r gofyniad | Math o Gontract | Dyddiad Dyfarniad Disgwyliedig |
---|---|---|---|---|
Peirianneg Sifil | Prynu contractwyr llwybrau beicio mynydd arbenigol | Mae angen adfer dau lwybr beicio mynydd cyfredol ym Mharc Coedwig Afan. | Contract | I’W GADARNHAU |
Peirianneg Sifil | Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Archwilio Safleoedd Peryglon, Tirlithriadau a Hen Domenni Glo yn Ne Cymru | Atgyweirio, Cynnal a Chadw ac Archwilio Safleoedd Peryglon, Tirlithriadau a Hen Domenni Glo yn Ne Cymru | Fframwaith | I’W GADARNHAU |
Peirianneg Sifil | Fframwaith yn ôl y Galw Pympiau Symudol - Gogledd Ddwyrain Cymru | Gofyniad am bympiau annibynnol ar gyfer pwmpio dŵr llifogydd allan yn ystod digwyddiadau mawr. Mae hyn yn cynnwys cyflenwad y tu allan i oriau o bympiau ‘mewnol’ symudol ynghyd â'r ategolion sydd eu hangen i'w rhedeg. | Fframwaith | 30/01/2025 |
Gwasanaethau Corfforaethol | Ymgynghori ac Ymgysylltu Cymorth Trydydd Parti | Datblygu cynllun rheoli Categori ar gyfer caffael cymorth trydydd parti ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws CNC. Yn y tymor hir, bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl i greu fframwaith pwrpasol os na ellir canfod fframwaith cyfredol addas. | Contract | 01/12/2024 |
Gwasanaethau Corfforaethol | Fframwaith Asiantau Seneddol | Y gallu i gyfarwyddo Asiantau Seneddol mewn perthynas â dehongliadau Seneddol, deddfwriaethol a materion cysylltiedig, yn enwedig ond nid yn gyfan gwbl mewn perthynas â deddfwriaeth sy'n benodol i Gymru. | Contract | 02/01/2025 |
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol | Gwelliannau i gynefinoedd, rheoli mincod ac adroddiad prosiect | Dyma drydydd cam prosiect sy’n bwriadu ailgyflwyno llygoden bengron y dŵr i Afon Ddawan. Gwella cynefinoedd, rheoli mincod a llunio adroddiad cryno ar y prosiect i gynnwys cynllunio ar gyfer y dyfodol. | Contract | 28/02/2026 |
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol | Ymgynghorydd pysgodfeydd: Tynnu, difa a gwaredu pysgod o Barc Dŵr y Sandy, Llanelli | Contractwr i dynnu, difa a gwaredu pysgod o Barc Dŵr y Sandy, Llanelli • Rhwydo sân i dorri'r llyn ac electrobysgota darnau llai i dynnu'r pysgod o'r llyn. |
Contract | 09/01/2024 |
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol | Fframwaith Trwyddedu Morol a Chyngor Arbenigol | Mae angen i MLT CNC ddarparu cyngor technegol arbenigol ar effeithiau ceisiadau am drwyddedau morol ar yr amgylchedd. | Fframwaith | 01/07/2025 |
Gwasanaethau Amgylcheddol a Morol | Casglu olew a gwastraff mewn argyfwng | Wrth ymateb i ddigwyddiad, efallai y bydd angen casglu gwastraff (drymiau olew) ar unwaith er mwyn osgoi niwed i'r amgylchedd. | Fframwaith | I’W GADARNHAU |
Rheoli Fflyd | NPAP - UTV Pwysedd Tir Isel a threlar ar gyfer cludo | Mae'r Tîm Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol angen Cerbyd UTV pwysedd tir isel i helpu i gludo offer (a staff) allan i safleoedd mawndir mawr/anghysbell. | Contract | I’W GADARNHAU |
Gweithrediadau Coedwig: | Arolygon Coedwig - Cynhyrchu, Teneuo, Arolygon Dwysedd Plannu a Phriodoleddau Coed | Arolygon Coedwig - Mesurlen ar gyfer 4 math gwahanol o arolwg ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Arolygon Cynhyrchu a Theneuo - Prisio cnydau llwyrgwympo ar gyfer gwerthu pren gan gynnwys marcio ffiniau. Arolwg dwysedd plannu coed - monitro ailstocio ym mlwyddyn 1 a 5. Arolwg Priodoleddau - arolwg treigl o gnydau blwyddyn 20 ar draws Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. |
Fframwaith | 04/01/2025 |
Gweithrediadau Coedwig: | Gwasanaethau Cymorth Hofrennydd (Tanau Gwyllt) | Prynu darpariaeth o wasanaethau hofrennydd Cymru gyfan i gynorthwyo i frwydro yn erbyn Tanau Gwyllt ar y Tir yn ein Gofal (Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol o dan ein rheolaeth). Bydd y cyflenwr ar gael yn ystod y prif gyfnod tân gwyllt a bydd ganddo offer priodol i anelu dŵr at flaen y tân. | Fframwaith | 01/03/2025 |
Gweithrediadau Coedwig: | Cyflenwi a Defnyddio Sternerma Carpocapse (Nematodau) | Rheolaeth fiolegol anghemegol o widdonyn Hylobius Abietis. | Contract | 01/01/2025 |
Gweithrediadau Coedwig: | Chwistrellu Cemegol - Cynnal a Chadw Safleoedd Ailstocio | Mae angen i ni allu amddiffyn ein hasedau sydd wedi'u plannu er mwyn sicrhau bod clystyrau coedwigaeth yn cael eu sefydlu'n llwyddiannus. Defnyddio cemegion i amddiffyn rhag chwyn a phlâu. | Fframwaith | 30/11/2024 |
Gweithrediadau Coedwig: | Ailosod a Glanhau - Cynnal a Chadw Safleoedd Ailstocio | Ailosod a glanhau safleoedd ailstocio yn fecanyddol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Sefydlu cellïoedd coedwigaeth i gwrdd ag amcanion gweithredol a strategol. | Fframwaith | 01/12/2024 |
Gweithrediadau Coedwig: | Gwasanaethau sy'n gysylltiedig â llinellau pŵer uwchben | Rheoli llinellau pŵer dros lwybrau cludo pren mewn coedwigaeth | Fframwaith | I’W GADARNHAU |
Offeryniaeth, Offer Monitro a Gwasanaethau | Amnewid asedau offerynnau dadansoddol | Tendr am 1 x dadansoddwr dadansoddol anorganig ac 1 x dadansoddwr metelau | Contract | 01/12/2023 |
Gwasanaethau Labordy | Gwasanaethau Dadansoddol Arbenigol i CNC | Dadansoddiad wedi'i gontractio'n allanol i labordy trydydd parti. Dadansoddiad sy'n ofynnol gan raglenni Monitro Dŵr Croyw a Morol, na ellir eu cyflawni gan NRWAS oherwydd maint neu gymhlethdod. | Contract | 28/02/2025 |
Rheoli tir | Gwella mawndiroedd | Datblygu fframwaith prynu ar gyfer gwaith tir i adfer mawndiroedd. | Fframwaith | 01/01/2025 |
Rheoli tir | Gweithredu, Storio, Trwsio a Chynnal a Chadw PistonBully | Gweithredu, Storio, Trwsio a Chynnal a Chadw PistonBully | Contract | 30/11/2024 |
Rheoli tir | Fframwaith Coedyddiaeth, Gwasanaethau Llif Gadwyn a Diogelwch Coed 2024 i 2028 | Fframwaith i ddarparu pob agwedd ar waith trin coed o fewn y tir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru | Fframwaith | 12/01/2024 |
Rheoli tir | Fframwaith Galluogi Coetiroedd Cymunedol | Cynnal gwasanaeth i gefnogi grwpiau rheoli tir cymunedol sy’n rhedeg prosiectau ar ystâd CNC. Mae hyn yn dilyn ymlaen o gontract presennol. | Fframwaith | I’W GADARNHAU |
Fel rhan o’n safonau tryloywder a data agored rydym yn cyhoeddi piblinell gaffael i gynorthwyo cyflenwyr i gynllunio a pharatoi at ymarferion caffael sy’n dod.
Bydd yr holl ofynion yn cael eu hysbysebu drwy wefan Sell2Wales.
Adolygir y biblinell bob 6 mis a gallai dyddiadau a gyhoeddwyd newid ac mae’r gwybodaeth yn ddangosol yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf