Gwnawn hyn drwy ddefnyddio ein data hydrometrig ein hunain, ynghyd â data a ddarparwyd gan y Swyddfa Dywydd a chwmnïau dŵr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • faint o law sy’n disgyn mewn gwahanol ddalgylchoedd
  • pa mor sych yw priddoedd a faint o law y gallant ei amsugno mewn gwahanol ardaloedd (gridiau)
  • faint o ddŵr sy’n llifo mewn gwahanol afonydd
  • faint o ddŵr sy’n cael ei storio o dan y ddaear mewn dyfrhaenau ac uwchben y ddaear mewn cronfeydd

Mae’r lefelau afonydd a môr mesuredig mwyaf diweddar ledled Cymru a ddaw o’n gorsafoedd monitro ar hyd yr afonydd a’r arfordir, ar gael ar-lein

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am setiau data penodol yr Adroddiad Sefyllfa Ddŵr ar gyfer 2018 hyd at fis Mehefin 2019, cysylltwch â WREPP@naturalresourceswales.gov.uk.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y sefyllfa dŵr am y tri mis nesaf yn Hydrological Outlook UK. 

Mae crynodebau hydrolegol ar gyfer safleoedd yng Nghymru ar gael o Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (CEH) yn eu crynodeb hydrolegol misol.

Mae rhagor o ddata hefyd ar gael drwy Borth Sychder CEH.

 

 

 

Diweddarwyd ddiwethaf