Diweddariad: Cofnodion tynnu dŵr

Ein swyddogaeth

Dŵr yw'r mwyaf hanfodol o adnoddau naturiol Cymru. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff rheoleiddiol sy'n gyfrifol am reoli adnoddau dŵr yng Nghymru. Mae angen i ni reoli anghenion dŵr yr amgylchedd, cymdeithas a'r economi, nawr ac yn y dyfodol. Rydyn ni’n wynebu nifer o heriau fydd yn effeithio ar ein hadnoddau dŵr a'r ffyrdd rydyn ni’n eu rheoli. Mae'r rhain yn cynnwys twf y boblogaeth, mwy o alw am ddŵr a newid yn yr hinsawdd.

Dyletswydd i gymryd camau

Mae dyletswydd arnom ni i gymryd camau, lle bo angen, i gadw, ailddosbarthu a chynyddu adnoddau dŵr ac i sicrhau eu defnydd cywir. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy fynd i gytundebau ('cytundebau Adran 20') gyda chwmnïau dŵr. Mae gennym ni chwe chytundeb gyda Dŵr Cymru i redeg cronlynnoedd. Mae'r rhain ar afonydd Dyfrdwy, Dwyfor, Aled, Clwyd, Tywi a Gwy.

Dŵr yfed diogel

Mae'r rhan fwyaf o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn cael dŵr yfed diogel a dibynadwy gan gwmnïau dŵr. Fodd bynnag, mae rhyw 30,000 o gartrefi a busnesau mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu ar eu cyflenwadau eu hunain ar gyfer dŵr yfed. Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol sy'n rheoleiddio'r cyflenwadau preifat hyn.

Sut rydyn ni’n rheoli adnoddau dŵr Cymru

Rydyn ni’n rheoli faint o ddŵr sy'n cael ei dynnu o'r amgylchedd trwy system drwyddedu a thrwy reoleiddio trwyddedau sydd mewn grym. Lle bo hynny'n briodol, rydyn ni hefyd yn cyhoeddi trwyddedau newydd. Ar hyn o bryd mae CNC yn rheoleiddio rhyw 1,160 o drwyddedau tynnu dŵr a 627 o drwyddedau cronni dŵr ledled Cymru.

Ceisiadau i dynnu dŵr

Caiff ceisiadau i dynnu a/neu gronni dŵr eu hasesu yn erbyn faint o ddŵr sydd ar gael yn lleol. Mae'r ddogfen Strategaethau Rheoli Tynnu Dŵr (SRhTD) yn nodi sut rydyn ni’n ymdrin â hyn. Yr hen enw ar y rhain oedd ‘Strategaethau Rheoli Tynnu Dŵr Dalgylch'. Mae dogfennau SRhTD yn asesu faint o ddŵr sydd ym mhob dalgylch afon. Ystyr 'croniad' yw strwythur mewn dyfroedd mewndirol sy'n gallu newid lefel neu lif y dŵr naill ai'n barhaol neu dros dro.

Rheoli tynnu dŵr

Mae'r ddogfen Saesneg 'Managing water abstraction' yn nodi sut byddwn ni’n rheoli adnoddau dŵr a'r fframwaith rheoleiddiol. Bydd angen Trwydded Tynnu Dŵr gan Cyfoeth Naturiol Cymru i dynnu mwy nag 20 metr ciwbig (4,400 o alwyni) o ddŵr y dydd o ffynhonnell dŵr wyneb neu ddŵr daear yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau tynnu a chronni dŵr ar gael yn yr adran 'Permitting'. I weld faint o ddŵr sydd ar gael yn nalgylch eich afon, ac i ddeall pa mor debygol yw eich cais o lwyddo, dylech ddarllen eich Strategaeth Rheoli Tynnu Dŵr leol.

Tynnu dŵr yn gynaliadwy a chyfrifol

Mae angen i ni sicrhau bod modd tynnu dŵr o afonydd neu o'r ddaear heb ddifrod i'r amgylchedd. Mewn achosion lle nad oes modd tynnu dŵr yn gynaliadwy, efallai bydd rhaid i ni ddiwygio trwyddedau sydd mewn grym, dan y rhaglen Adfer Dulliau Cynaliadwy o Dynnu Dŵr (RSA). Mae ymchwiliadau dan y Rhaglen RSA wedi helpu adnabod gwelliannau fydd yn cyfrannu i fodloni rhwymedigaethau'r DU dan Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD).

Partneriaethau trawsffiniol

Gan fod dalgylchoedd afonydd Dyfrdwy, Gwy a Hafren y ddwy ochr i'r ffin â Lloegr, bydd CNC yn parhau i gydweithio ag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau rheolaeth effeithlon ac effeithiol o'r dalgylchoedd trawsffiniol hyn.

Sut rydyn ni’n monitro adnoddau dŵr Cymru

Rydyn ni’n monitro lefelau afonydd a moroedd ledled Cymru trwy gasglu data o'n gorsafoedd mesur ar hyd afonydd ac arfordiroedd.

Rydym yn llunio darlun cynhwysfawr o’r sefyllfa ddŵr gyfredol ledled Cymru drwy ddefnyddio’r data hwn, yn ogystal â data arall a ddarparwyd gan gwmnïau Dŵr a data ffurflenni a ddarparwyd gan dynwyr dŵr trwyddedig.

Penderfyniadau amserol

Mae'r data'n ein helpu i wneud penderfyniadau amserol ynglŷn â rheoli adnoddau dŵr. Mae hefyd yn ein galluogi i ddatgan sut mae'r sefyllfa ddŵr yn cymharu ag amodau normal, fel rhan o'n gweithgareddau rheoli sychder. I gael rhagor o wybodaeth, galwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 8am - 6pm) neu e-bostiwch ni.

Strategaeth Adnoddau Dŵr i Gymru

Mae dogfen Cyfoeth Naturiol Cymru, Strategaeth Adnoddau Dŵr i Gymru, yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer rheoli adnoddau dŵr dros y degawdau nesaf i sicrhau bod modd eu tynnu a'u defnyddio'n gynaliadwy. Bydd gweithredu'r strategaeth hon yn sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i bobl a'r amgylchedd, nawr ac yn y dyfodol. Mae'r strategaeth yn cynnwys cyfres o gamau mae CNC yn credu bod angen eu cymryd er mwyn sicrhau'r cyflenwad dŵr a diogelu'r amgylchedd. Mae'r cynllun gweithredu cysylltiedig yn nodi'r camau hyn yn fanwl.

Cynghori'r llywodraeth

Rydyn ni hefyd yn gweithredu fel cynghorwyr technegol Llywodraeth Cymru ac yn cydweithio'n agos â'i chynrychiolwyr i gefnogi datblygiad a gweithrediad polisi dŵr i Gymru. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ei Strategaeth Ddŵr i Gymru.

Cyfeiriad hirdymor

Mae'r Strategaeth Ddŵr i Gymru yn nodi cyfeiriadau polisi hirdymor o ran rheoli dŵr. Mae’n ceisio sicrhau bod ein hadnoddau dŵr yn gryf a chynaliadwy ac yn cael eu rheoli i ddod â buddion i Gymru a'i dinasyddion. Gan ddefnyddio'r dull rheoli ar lefel yr ecosystem, mae'n amlinellu dull mwy integredig o reoli dŵr, tir ac adnoddau cysylltiedig. Bydd hyn, yn ei dro, yn gwneud y defnydd gorau a thecaf o'r buddion economaidd a chymdeithasol sy'n deillio o hynny. Bydd hefyd yn diogelu ecosystemau hanfodol a'r amgylchedd. 

Dangosfwrdd Darganfod Dŵr

Gall cwsmeriaid dŵr weld yn gyflym ac yn hawdd sut mae eu cwmni dŵr yn perfformio a’i gymharu â chwmnïau eraill. Mae’r wybodaeth ar gael ar Discoverwater. Yno mae amrywiaeth gynhwysfawr o ddata sy'n cwmpasu ansawdd dŵr, iechyd cyhoeddus, gwasanaeth cwsmeriaid ac agweddau amgylcheddol gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf