Ymweld â'n safleoedd yn ystod pandemig y coronafeirws
Sut i gynllunio ar gyfer ymweliad diogel a beth...
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datblygu dau ap ffôn clyfar i’w gwneud yn rhwyddach fyth archwilio’r awyr agored
Mae’r ap PlacesToGo yn dangos ble gallwch chi fynd a beth allwch chi ei wneud yng nghoedwigoedd cyhoeddus Cymru a’r Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Gallwch chwilio am fapiau llwybrau cerdded a chanfod i ble i fynd i feicio mynydd ac i farchogaeth mewn coedwigoedd
Mae’r ap Place Tales yn egluro treftadaeth naturiol a diwylliannol rhai o’r coedwigoedd a’r gwarchodfeydd hyn. Mae’n cynnwys llwybrau sain a chwedlau gwerin i helpu i ddod â’r mannau hyn yn fyw
Gellir lawrlwytho’r ddau ap yn rhad ac am ddim ar Android (4.0 ac uwch) a dyfeisiau iOS (iOS7 ac uwch)
Gan fod y rhwydwaith ffôn symudol yn gallu bod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho’r apiau hyn cyn eich ymweliad.
Rhaid ichi fynd i Google Play neu’r Apple App Store i lawrlwytho’r fersiwn o’r ap sy’n addas ar gyfer eich dyfais chi.