Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Mae hen lwybr Ffordd Las Ceri’n mynd heibio i faes parcio Block Wood yng Nghoedwig Ceri
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Un o’r planhigfeydd conwydd sy’n ffurfio Coedwig Ceri yw Block Wood.
Gallwch fynd ar lwybr troed hir Ffordd Las Ceri o faes parcio Block Wood.
Mae yna olygfeydd da o’r byrddau picnic sydd wedi eu lleoli ymysg y coed o gwmpas y maes parcio.
Mae llwybr troed hir Ffordd Las Ceri yn rhedeg drwy Goedwig Ceri.
Mae gan Ffordd Las Ceri draddodiad hir fel llwybr masnach a phorthmyn wrth i bobl deithio o Gymru i’r marchnadoedd yn Lloegr.
Nid yw’r llwybr byth yn is na 1000 o droedfeddi (300 metr) uwchlaw lefel y môr, ac felly mae’r golygfeydd i gyfeiriad Cymru ar un ochr, a Lloegr i’r cyfeiriad arall, yn ysblennydd.
Gall gerddwyr, beicwyr a rhai ar gefn ceffyl ddilyn y llwybr hwn.
Mae llwybr hir Ffordd Las Ceri’n 15 milltir (24km) o hyd o faes parcio Cider House ger pentref Dolfor ym Mhowys i Bishops Castle yn Sir Amwythig.
Cyngor Sir Powys sy’n gofalu am lwybr Ffordd Las Ceri.
Ceir yna ychydig o arwyddbyst ond rydym yn argymell eich bod yn defnyddio map ar gyfer y teithiau cerdded hirach.
Fedrwch gyrraedd rhai o nodweddion hanesyddol ar Ffordd Las Ceri yn hwylus, wrth barcio ym maes parcio Block Wood.
Sylwch:
Lleolir maes parcio Block Wood yng Nghoedwig Ceri oddi ar y B4368, tair milltir i’r de o bentref Ceri.
Mae yn Sir Powys.
Gallwch barcio am ddim ym maes parcio Block Wood.
Mae maes parcio Cider House yn fan cychwyn Ffordd Las Ceri, yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Powys. Mae wedi’i leoli ar y B4355.
Mae Coedwig Ceri ar fap Arolwg Ordnans (AR) 214.
Y cyfeirnod grid OS yw SO 149 862.
Mae’r orsaf drên agosaf yn y Drenewydd.
Mae bysus rhifau 41 ac 81 yn mynd o'r dref. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000