Cynadleddau yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Golygfa o adeilad Beics Brenin ym Mharc Coed y Brenin

Croeso

Enillodd Coed y Brenin fri yn yr 1990au fel canolfan beicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain.

Mae yna ddigonedd o bethau i ymwelwyr eraill eu mwynhau, a cheir llwybrau cerdded a rhedeg trwy Barc Coed y Brenin yn ogystal â chyrsiau cyfeiriannu a llwybrau geogelcio.

Mae’r ystafelloedd cynadledda’n addas i amrywiaeth o gyfarfodydd busnes, digwyddiadau a gweithgareddau.

Gellir eu llogi hefyd ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol neu at ddefnydd clybiau a chymdeithasau.

Ystafell gynadledda

Mae’r brif ystafell gynadledda’n dal hyd at 80 o bobl.

Mae modd rhannu’r ystafell gynadledda’n ddwy, fel y gellir cynnal dau ddigwyddiad llai yr un pryd.

Mae’r cyfleusterau yn yr ystafell gynadledda’n cynnwys:

  • Taflunydd a sgrin
  • Sgrin gyffwrdd amlgyfrwng
  • siart troi

Arlwyo

Mae ein caffi’n cynnig dewis o eitemau ar y fwydlen a lluniaeth o fath arall.

Gallwch drefnu ac archebu gwasanaeth arlwyo ymlaen llaw yn y caffi (noder nad oes gwasanaeth arlwyo ar gael yn ystod gwyliau’r ysgol).

Fel arall, gall cynrychiolwyr brynu eu bwyd a’u lluniaeth eu hunain yn y caffi yn ystod eich digwyddiad.

Gweithgareddau ar gyfer cynrychiolwyr

Pe bai eich cynrychiolwyr yn dymuno ystwytho’u coesau a chael rhywfaint o awyr iach, mae tri llwybr cerdded yn cychwyn o faes parcio’r ganolfan ymwelwyr.

Efallai hefyd y byddant yn dymuno gwneud rhywfaint o feicio mynydd – mae ein llwybrau’n amrywio o rai hawdd ar gyfer dechreuwyr i rai technegol anodd ar gyfer beicwyr medrus.

Gall y cynrychiolwyr ddod â’u beic eu hunain neu logi un yn y siop feiciau (archebu ymlaen llaw yn hanfodol).

Gallant ddysgu neu wella eu sgiliau beicio oddi ar y ffordd yn yr ardal sgiliau, neu efallai yr hoffech archebu hyfforddwr beicio mynydd.

Mae’r gweithgareddau eraill sydd ar gael yn y ganolfan ymwelwyr yn cynnwys cyfeiriannu, rhedeg llwybrau a geogelcio.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell gynadledda’n hygyrch.

Hefyd, mae rhai o’n llwybrau a’n gweithgareddau eraill yn hygyrch.

Sut i archebu

Gellir archebu’r cyfleusterau cynadledda am ddiwrnod llawn neu hanner diwrnod.

I gael prisiau a gwybodaeth am archebu, e-bositwch Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin

Mwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf