Golygfa Ban, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Bellach mae cyfleusterau ymwelwyr Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays. Mae’r maes parcio, y llwybrau, y caffi a’r ganolfan ymwelwyr yn dal ar agor i ymwelwyr dydd. Bydd Forest Holidays yn adeiladu cabanau gwyliau pren yn y goedwig ac yn uwchraddio’r ganolfan ymwelwyr, y caffi a’r siop.
Garwnant yw'r porth deheuol i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae’n hawdd ei ganfod, rhyw ychydig oddi ar yr A470 i'r gogledd o Ferthyr Tudful.
Mae sawl llwybr cerdded yn y goedwig, sy'n addas i deuluoedd, ac mae un yn hygyrch i gadeiriau gwthio ac i gadeiriau olwyn.
Mae dau lwybr beicio mynydd byr ar gyfer beicwyr iau a pharc sgiliau gyda rhwystrau sy’n addas i blant.
Mae yma ardal chwarae awyr agored a llwybr pos anifeiliaid.
Mae yma gaffi gydag ardal eistedd y tu allan, ac mae ardal bicnic fawr o amgylch y maes parcio a meinciau picnic ar hyd y llwybrau cerdded.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae Llwybr Cerdded yr Helyg yn llwybr pob gallu hamddenol sy'n croesi'r nant mewn sawl man.
Ar ôl croesi tair pont, mae'r llwybr yn mynd drwy dwnnel helyg ar ei ffordd nôl i'r ganolfan ymwelwyr.
Mae Llwybr Cerdded y Wern yn llwybr coetir sy'n mynd heibio i adfeilion Fferm y Wern, sy'n datgelu gorffennol amaethyddol yr ardal hon.
Mae'r llwybr yn dychwelyd i'r ganolfan ymwelwyr ar hyd ffordd goedwig lle ceir golygfeydd da a bydd tegeirianau gwyllt i’w gweld yma yn yr haf.
Lawrlwythwch y daflen llwybrau darganfod o waelod y we-dudalen hon.
Ewch â chreon i wneud rhwbiadau o’r dail sydd ar yr arwyddion.
Dilynwch Lwybr yr Helyg a'r cliwiau a’r map o amgylch y llwybr i adnabod y coed.
Lawrlwythwch y daflen llwybrau darganfod o waelod y we-dudalen hon.
Dilynwch y cliwiau ar y map o amgylch y llwybr gan gadw eich llygaid ar agor am yr anifeiliaid.
Mae'r Parc Sgiliau Beicio Mynydd yn cynnwys cyfres o rwystrau i blant sydd wedi'u dylunio'n arbennig i wella sgiliau ac ennyn hyder a dau lwybr byr.
Mae angen i feicwyr allu pedalu am i fyny a delio â throeon syml.
Gellir beicio pob elfen yn araf neu ei hosgoi'n gyfan gwbl a bydd beicwyr yn gwthio eu beic i fyny'r ramp ac yn beicio o amgylch pob elfen yn eu tro.
I blant bach yn ddelfrydol dylai oedolyn fod yn cadw llygad arnynt.
Mae llwybr beicio mynydd Criafolen wedi'i ddylunio ar gyfer beicwyr mynydd iau tro cyntaf a gellir mynd yn araf neu'n gyflym arno.
Mae'n dechrau drwy gynhesu i fyny yn y Parc Beiciau cyn dringo i fyny trac llydan.
Aiff i lawr cyfres o ysgafellau a throeon, crybiau a thwmpau agored cyn gorffen islaw'r Parc Beiciau.
Mae llwybr beicio mynydd y Pyrwydden wedi'i ddylunio i wella sgiliau beicio.
Mae'n rhannu llethr â llwybr Criafolen ac yna'n rhannu i ddilyn rhan rythm fer.
Dilynir cwymp hawdd gan rai corneli ysgafellog serth ac mae'r disgyniad cyflym yn mynd drwy ragor o droeon cyn gorffen yn gyflym ac ymuno â'r llethr a rennir eto.
Yna mae'r llwybr yn mynd i lawr Llwybr Criafolen i'r llinell orffen.
Lleolir yr ardal chwarae awyr agored i blant ger y ganolfan ymwelwyr a'r ardal picnic.
Mae'r caffi gyferbyn â'r ganolfan ymwelwyr a chaiff ei redeg gan gwmni lleol Just Perfect Catering.
Mae'r caffi yn gweini diodydd poeth ac oer, cacennau, ciniawau ac arlwy arbennig sy'n newid bob dydd.
Ceir golygfeydd o'r bwyty a gellir eistedd yn yr awyr agored.
Am fwy o wybodaeth ac oriau ago cysylltwch â Just Perfect Catering:
enquiries@justperfectcatering.co.uk
Bellach mae cyfleusterau ymwelwyr Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays.
Ewch i wefan Forest Holidays i ddarganfod mwy am y cyfleusterau ymwelwyr ac amseroedd agor.
Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant 5 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tudful.
Mae’r safle hwn yn Sir Rhondda Cynon Taf.
Y cod post ar gyfer teclynnau llywio lloeren yw CF48 2HU.
Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant ar fap Explorer Arolwg Ordnans (OS) OL 12.
Cyfeirnod grid yr OS yw SO 002 131.
Dilynwch yr A470 o Ferthyr Tudful tuag at Aberhonddu a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i'r maes parcio.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Merthyr Tudful.
T4 Merthyr i Aberhonddu yw'r gwasanaeth bws lleol sy'n mynd heibio i'r safle.
Mae Bws y Bannau hefyd yn mynd heibio i'r safle ac ar gael dros yr haf.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Bellach mae maes parcio Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays.
Am oriau agor a'r wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Forest Holidays neu cysylltwch â'r ganolfan ymwelwyr
Bellach mae cyfleusterau ymwelwyr Garwnant yn cael eu rheoli gan Forest Holidays.