Mae cefn gwlad Cymru yn adnodd naturiol ysblennydd, ac mae pysgota mewn afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr yn ffordd ddelfrydol o ddod yn nes at natur.

Yn y cod hwn ceir gwybodaeth sydd eisoes yn hysbys i’r rheini sy’n hen lawiau ar bysgota, ond bydd yn helpu’r rheini sy’n dechrau yn y maes i wneud yn fawr o bysgota yng Nghymru, gan ddiogelu dyfodol y gweithgaredd yr un pryd.

Cymerwch ofal o’r amgylchedd naturiol tra byddwch yn pysgota:

  • parchwch bobl eraill
  • diogelwch yr amgylchedd naturiol
  • mwynhewch a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Parchwch bobl eraill

Mae’r Cod Cefn Gwlad yn cynnwys cyngor pwysig ynglŷn â’r modd y dylid defnyddio cefn gwlad yn gyfrifol. Cofiwch ymgyfarwyddo ag ef cyn mentro allan, a chofiwch gadw ato bob amser. 

Peidiwch â thresmasu. Mae yna ardaloedd i’w cael lle mae gan y cyhoedd hawl i fynd arnynt, yn cynnwys llwybrau cyhoeddus, tir mynediad a rhai dyfroedd sydd â hawliau mordwyo. Fodd bynnag, y tu hwnt i’r ardaloedd hyn peidiwch â chymryd yn ganiataol fod gennych hawl i fynd ar unrhyw dir neu ddŵr heb ganiatâd y perchennog. 

Rhaid i bob pysgotwr sy’n pysgota yng Nghymru a Lloegr gael trwydded gwialen a chaniatâd y sawl sy’n berchen ar y rhan honno o’r afon, y llyn, y gronfa ddŵr neu’r gamlas. Mae’n bwysig iawn ichi barchu rheolau perchnogion y bysgodfa ac unrhyw is-ddeddfau statudol sy’n digwydd bod mewn grym yn yr ardal. 

Lle y bo’n briodol, gwnewch yn siŵreich bod wedi prynu tocyn diwrnod i ddefnyddio’r bysgodfa. Byddwch angen trwydded diwrnod neu drwydded tymor i bysgota mewn dŵr mewndirol.

Parchwch bysgotwyr eraill, gwnewch eich hun yn hysbys i bwy bynnag sy’n pysgota, a chwiliwch am le addas sy’n ddigon pell oddi wrthynt.

Parchwch hawliau’r bobl eraill sy’n defnyddio’r dŵr, byddwch yn gwrtais gyda nhw, a rhowch wybod iddynt ble rydych yn pysgota fel y gallant fynd heibio heb darfu arnoch.

Diogelwch yr amgylchedd naturiol

Pwrpas rheolau a rheoliadau pysgota yw helpu i ailgyflenwi stociau pysgod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau y bydd yr afon yn aros yn iach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn pysgota o fewn y tymor pysgota – fel arfer rhwng mis Mawrth a mis Hydref ar gyfer pysgota pysgod hela, neu rhwng mis Mehefin a mis Mawrth ar gyfer pysgota bras. Ond efallai y bydd amrywiadau neu gyfyngiadau lleol mewn grym.

Os ydych yn ymweld â’r lle am y tro cyntaf, cysylltwch â’r clwb lleol neu berchennog y bysgodfa i weld a oes cyfyngiadau mewn grym. Efallai y bydd cyfyngiadau’n ymwneud â nifer y pysgod y gellir eu pysgota, neu eu maint, mewn grym ar yr afon neu’r pwll, ynghyd â chyfyngiadau ar y dulliau pysgota a’r adegau.

Wrth bysgota, mae’r ffordd y caiff y pysgod eu trin yn bwysig o ran lleihau straen i’r pysgod neu leihau’r posibilrwydd o ledaenu clefyd. Ni ddylai rhwydi glanio na rhwydi cadw fod wedi’u gwneud o rwyllau clymog, ac mewn ambell achos rhaid iddynt fod o faint arbennig. Mae ambell bysgodfa’n gosod cyfyngiadau ar faint rhwydi cadw. Ystyriwch gario mat dadfachu ar gyfer carp a physgod mawr eraill mewn rhai mannau.

Mae dal a gollwng yn ffordd o ddiogelu stociau pysgod ar gyfer y dyfodol, ac efallai fod yr arfer yn orfodol mewn rhai mannau. Ceisiwch sicrhau bod y broses mor ddi-boen â phosibl i’r pysgod:

  • defnyddiwch lein gref fel y gallwch ddal y pysgodyn yn gyflym er mwyn ei ddychwelyd i’r dŵr cyn gynted â phosibl
  • ystyriwch ddefnyddio bachau didagell er mwyn osgoi niweidio’r pysgodyn yn ddiangen
  • byddwch yn ofalus dros ben wrth dynnu’r bachyn, a rhowch y pysgodyn yn ôl yn y dŵr cyn gynted â phosibl
  • dewiswch orsaf bysgota sy’n rhoi’r rheolaeth yn eich dwylo chi a lle gallwch lanio pysgodyn yn rhwydd, a gwnewch yn siŵr fod yr offer, y rhwydi glanio a’r teclynnau dadfachu priodol ac ati gennych

Mae’r glannau’n gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Defnyddiwch y llwybrau cydnabyddedig neu cerddwch ar greigiau noeth er mwyn niweidio cyn lleied â phosibl arnynt.

Peidiwch â dychryn adar, da byw nac anifeiliaid eraill – efallai y byddant yn dychryn yn hawdd. Os bydd eich presenoldeb yn cynhyrfu’r anifeiliaid, symudwch oddi wrthynt yn dawel.

Cofiwch y gall adar nythu ar ynysoedd, glannau a graean yn ystod y gwanwyn a’r haf. Byddwch yn ofalus iawn – peidiwch â tharfu arnynt yn ystod y cyfnod hwn.

Peidiwch â gollwng sbwriel neu offer pysgota, a chofiwch fynd â’ch lein pysgota adref gyda chi.

Efallai fod rhannau o afonydd a chronfeydd dŵr wedi’u dynodi’n ardaloedd lloches. Parchwch y rhain a chadwch yn ddigon pell oddi wrthynt. Rydym yn cynghori pysgotwyr sy’n pysgota yn ystod y gaeaf a’r gwanwyn i gadw’n glir o safleoedd silio. Os bydd y pysgod yn silio, peidiwch â mynd i’r dŵr yn y fan honno. Mae’n drosedd tarfu ar bysgod sy’n silio.

Mae angen rheoli’n ofalus y rhywogaethau estron sydd wedi’u darganfod yn ein hafonydd a’n llynnoedd. Peidiwch â symud o ddŵr i ddŵr heb ddiheintio neu sychu eich offer yn drylwyr. Byddwch yn ofalus dros ben wrth ddefnyddio rhwydi neu esgidiau pysgota â gwadnau ffelt. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau’r Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron.

Mwynhewch yr awyr agored a gwnewch yn siŵr eich bod yn saff

Chi sy’n gyfrifol am eich diogelwch eich hun. Dywedwch wrth rywun i ble rydych yn mynd a phryd rydych yn debygol o ddychwelyd, a chofiwch fod â ffordd o alw am help pe baech yn mynd i drafferthion.

Gall mynd i afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr neu gamlesi fod yn beryglus, yn enwedig gyda’r nos. Gwnewch yn siŵr fod gennych esgidiau addas a thorsh.

Gall yr amodau ar y dŵr newid yn gyflym. Cyn ichi adael y tŷ, gwrandewch/edrychwch ar ragolygon y tywydd a gochelwch rhag cael eich dal ar bonciau graean neu ynysoedd pe bai llif yr afon yn codi.

Byddwch yn ofalus wrth daflu’r lein. Chwiliwch am beryglon, fel ceblau trydan neu bobl a all fod yn sefyll y tu ôl ichi. Byddwch yn ofalus wrth bysgota mewn tywydd gwyntog, oherwydd gall y gwynt chwythu’r bachyn i’ch wyneb.

Efallai y bydd bacteria, firysau neu algâu gwenwynig i’w cael mewn ambell le. Os bydd golwg annifyr ar y dŵr, neu os bydd yn drewi, peidiwch â mynd i mewn iddo. Ond os byddwch yn mynd i mewn i ddŵr amheus yr olwg:

  • gorchuddiwch friwiau a chrafiadau â phlasteri sy’n dal dŵr
  • peidiwch â llyncu unrhyw ddŵr, oherwydd mi allai gynnwys bacteria neu firysau
  • gwisgwch esgidiau i’ch rhwystro rhag cael briwiau ar eich traed.
  • peidiwch â llyncu’r dŵr
  • ar ôl mynd allan o’r dŵr, ymolchwch cyn gynted â phosibl, yn enwedig cyn bwyta
  • pe baech yn arddangos unrhyw symptomau, cysylltwch â’ch meddyg a dywedwch wrtho/wrthi ble yn union y buoch

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (24 awr).

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf