Canllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru
Dilynwch canllawiau Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i bawb sy'n byw neu'n teithio yng Nghymru.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau cyfredol.
Chwe cham i ymweliad diogel
Cyn eich ymweliad
- Cynlluniwch ymlaen llaw – gofalwch eich bod yn gwybod beth sydd ar agor a beth sydd wedi cau cyn cychwyn.
- Osgowch y tyrfaoedd – dewiswch rywle tawel i ymweld ag ef. Meddyliwch am ‘gynllun B’ rhag ofn y bydd eich cyrchfan yn rhy brysur pan fyddwch yn cyrraedd yno
Tra byddwch yno
- Parciwch yn gyfrifol – parchwch y gymuned leol drwy ddefnyddio meysydd parcio. Peidiwch â pharcio ar ymyl y ffordd neu rwystro llwybrau mynediad brys
- Dilynwch ganllawiau – ufuddhewch i arwyddion yn y safle a chamau diogelwch Covid 19 er mwyn mwynhau eich ymweliad yn ddiogel
- Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi – diogelwch fywyd gwyllt a’r amgylchedd drwy beidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad
- Dilynwch y Cod Cefn Gwlad – cadwch at lwybrau, gadewch giatiau fel yr oeddent, cadwch gŵn dan reolaeth, rhowch faw ci mewn bag a’i roi yn y bin
Gwiriwch beth sydd ar agor neu ar gau
- Mae'r meysydd parcio, y llwybrau, yr ardaloedd chwarae a’r toiledau ym mwyafrif ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur ar agor
- Mae'r rhan fwyaf o'r cyfleusterau y tu mewn i'n canolfannau ymwelwyr ar agor
- Efallai y bydd rhai llwybrau neu gyfleusterau eraill ar gau ar gyfer cynnal a chadw
Ewch i dudalen y coetir neu warchodfa natur cyn ymweld