Lleoedd i ymweld â hwy
Manylion am ein coetiroedd a’n Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol...
Sut i gynllunio ar gyfer ymweliad diogel a beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn cyrraedd
Diweddariad diwethaf: 14 Ionawr 2021
Ar hyn o bryd mae Cymru ar lefel rhybudd 4 o reoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch y coronafeirws (COVID-19), gan olygu mai at ddibenion hanfodol yn unig y dylid teithio.
Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn datgan y dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref ac, yn gyffredinol, ni ddylai pobl yrru i leoliad oddi wrth eu cartref ar gyfer hyn.
Ni ddylech deithio i'n safleoedd oni bai fod gennych rheswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd, a dylid gyrru i’r lleoliad agosaf sy’n hygyrch i chi.
Mae'r meysydd parcio, y llwybrau, yr ardaloedd chwarae a’r toiledau ym mwyafrif ein coetiroedd a'n gwarchodfeydd natur ar agor.
O dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Noder na ddylid gyrru mewn cerbyd i ddefnyddio unrhyw rai o’n llwybrau beicio mynydd.
Os byddwch yn defnyddio ein safleoedd at ddibenion ymarfer corff, dylech wneud hynny ar eich pen eich hun neu gydag aelod(au) o’r un cartref neu swigen gefnogaeth
Mae’r cyfleusterau hyn ar gau am y tro:
Mae rhai cyfleusterau yn ein safleoedd yn dal i fod wedi cau - cynlluniwch o flaen cyn ymweld.
Mae’r meysydd parcio, llwybrau a'r holl gyfleusterau ar gau yn y mannau hyn oherwydd gwaith coedwigaeth parhaus:
Cynlluniwch ymlaen llaw
Parciwch yn gyfrifol
Cadwch draw oddi wrth eraill
Byddwch yn amyneddgar ac yn barchus
Troediwch yn ysgafn
Dilynwch y Cod Cefn Gwlad