Maint Cynefin Lled-Naturiol yng Nghymru (Dangosydd 43)

Mapiodd Cyfoeth Naturiol Cymru faint cynefin lled-naturiol Cymru gan ddefnyddio data lloeren diweddar a’r Map Cynefin Cam 1 cyfredol, oedd hefyd yn cynnwys dulliau arolygu maes.  Gwnaethom ddarganfod fod 31% o Gymru yn gynefin lled-naturiol yn 2017-2018, yr un fath ag yn 2016-2017.  Ceir gwahaniaeth mawr rhwng ardaloedd tir uchel (74%) ac ardaloedd tir isel (19%).  Rydym yn adrodd y ffigurau i Lywodraeth Cymru ar gyfer Dangosydd 43 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ardaloedd ecosystemau iach yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf