Astudiaeth Beilot ar Gymunedau Cynaliadwy
Cafodd y prosiect hwn, Astudiaeth Beilot Cymunedau Cynaliadwy Cymru, ei gomisiynu er mwyn ymdrin â’r sialensiau, y cyfyngiadau a’r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2016 o Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru. Bu’n profi dull newydd a ddatblygwyd fel rhan o brosiect ‘Flood Resilience Community Pathfinder’ (FRCP) Defra yn Lloegr.
Y bwriad yw y bydd y prosiect yn cynnig tystiolaeth ar gyfer:
- Deall dull gwahanol – a ddefnyddiwyd yn llwyddiannus mewn mannau eraill yn y DU
- Datblygu gwaith yng Nghymru yn y dyfodol
Prif nodau’r astudiaeth oedd:
- Profi dull prosiect Pathfinder o safbwynt ymgysylltu â chymunedau yng Nghymru ac asesu ei effeithiolrwydd dros gyfod byr
- Cynnig gwerthusiad a oedd yn cynnwys adborth uniongyrchol gan gymunedau ac unigolion oddi mewn i ardaloedd y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys eu canfyddiad cychwynnol o gydnerthedd cymunedol gwell ynghyd â barn plant a phobl ifanc
- Cyflwyno argymhellion yn ymwneud â dulliau a ffefrir, gan gymharu dull presennol Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru o ymdrin â model Pathfinder, ac unrhyw fodelau perthnasol eraill
- Cyflwyno argymhellion sy’n cyfarwyddo’r modd y cyflawnir y gwaith yn yr hirdymor, gan ganolbwyntio’n benodol ar y dulliau sydd fwyaf effeithiol o ran sicrhau cynaliadwyedd hirdymor
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r camau gweithredu ymarferol gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i ymgysylltu â thair cymuned yng Nghymru a gwerthuso'r rhaglen waith a arweinir gan Collingwood Environmental Planning.
Os hoffech gael copi llawn o’r adroddiad, neu os oes gennych ymholiadau neu sylwadau, anfonwch e-bost atom yn uniongyrchol: floodawareness.wales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk