Adroddiad interim ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2019: Asesu

Upper Llynfi Valley

Mesur y gwaith o reoli ein hamgylchedd yn gynaliadwy

Rydym yn defnyddio pedwar mesur i asesu pa mor dda rydym ni'n defnyddio ac yn rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru.  

Maen nhw'n ein helpu ni i ystyried pa mor effeithiol yw ein hadnoddau naturiol ac a yw'r amgylchedd yn gallu addasu i newid.

Rydym yn eu defnyddio hefyd i edrych ar a yw'r gwasanaethau a ddarperir ar ein cyfer gan adnoddau naturiol Cymru – fel amddiffyniad rhag llifogydd ac aer glân – yn ein helpu i fyw bywydau iach.

Mae'r pedwar mesur yn cynnwys ystyriaeth o'r canlynol:

  1. A yw'r adnoddau naturiol yn cael eu diogelu a'u gwella
  2. A yw'r ecosystemau yn gallu gwrthsefyll newid disgwyliedig ac anrhagweledig
  3. A oes gan Gymru leoedd iach ar gyfer pobl sydd wedi'u diogelu rhag peryglon amgylcheddol
  4. A yw Cymru'n cyfrannu at economi gylchol gyda defnydd mwy effeithlon o adnoddau naturiol

Darllenwch fwy am yr hyn y mae ein pedwar mesur yn ei olygu.

Defnyddio fframweithiau rhyngwladol

Mae ein mesurau wedi'u gosod o fewn Fframwaith Ysgogwr-Pwysau-Sefyllfa-Effaith-Ymateb y Cenhedloedd Unedig.

Mae hyn yn ein helpu i ystyried yr hyn sy'n ysgogi newid amgylcheddol, ei effaith, a datrysiadau posibl. 

DPSIR

O fewn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym yn defnyddio'r fframwaith hwn i wneud y canlynol:  

  • Cofnodi'r ysgogwyr a'r pwysau ar adnoddau naturiol
  • Asesu a yw'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o dan y pwysau hyn
  • Asesu sut mae sefyllfa adnoddau naturiol yn effeithio ar gydnerthedd ecosystemau a gwasanaethau ecosystemau
  • Gosod amrediad o ymatebion i wneud y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn fwy cynaliadwy

Rheoli datblygiadau cynaliadwy mewn modd cynaliadwy

Drwy'r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, rydym yn edrych ar sut mae'r amgylchedd, cymdeithas a'r economi'n gysylltiedig fel y gallwn roi sylw i saith nod llesiant Cymru.

Amgylchedd, cymdeithas, economi

Ein dull pum cam

Mae dull pum cam yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn cynnwys fframwaith Ysgogwr-Pwysau-Sefyllfa-Effaith-Ymateb y Cenhedloedd Unedig a'r pedwar mesur ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Darllenwch fwy am ein dull pum cam o asesu sefyllfa adnoddau naturiol yng Nghymru.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru)

Ein fframwaith deddfwriaethol yw Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).

Mae'n gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol o fewn Cyfraith Gymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn adlewyrchu dull gweithredu'r Cenhedloedd Unedig.

Maen nhw'n gysylltiedig â deddfwriaethau eraill, fel y Ddeddf Cynllunio a'r Ddeddf Treftadaeth.

Mae'r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar arfer gorau rhyngwladol mewn perthynas â’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem.

Mae'n ein galluogi i sicrhau bod adnoddau naturiol ac ecosystemau'n gydnerth ac yn gallu darparu buddion nawr, ac ar gyfer y dyfodol, drwy reolaeth gynaliadwy. 

Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a defnydd tir a ffermio yn cyfrannu at y cynllun hwn. 

Heriau cyfredol

Darllenwch fwy am y ddwy her ryng-gysylltiedig i gyflawni'r gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf