Dyma restr fer o'r hyn y credwn sydd ei angen arnom i asesu rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol – rhywbeth y credwn nad oes gennym ar hyn o bryd.

Os credwch y gallwch ein helpu gyda'r rhain, neu os gallwch ein cyfeirio at wybodaeth sy'n bodoli eisoes, cysylltwch â ni sonarr@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lefel o flaenoriaeth Y dystiolaeth sydd ei hangen
Uchaf (Presennol) Maint, cyflwr ac amrywiaeth y cynefinoedd mewn ACA, AGA, SoDdGA a'r amgylchedd ehangach
Dealltwriaeth o anghenion defnydd dŵr aml-sector
Dealltwriaeth o bwyntiau di-droi’n-ôl yng Nghymru
Deall y risgiau i iechyd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd (e.e. ansawdd dwr gwael, clefydau a gludir mewn bwyd, pathogenau a gludir gan fector)
Cymedrol Gorlifdir gweithredol o fewn tir a reolir ar gyfer buddion eraill
Manteision coetiroedd a choed-gwasanaethau ecosystem
Newidiadau o ran maint cynefinoedd ymylon arfordirol
Mapiau cysylltedd yn dangos rhwydweithiau cynefin, nodweddion llinellol a cherrig camu ar gyfer pob cynefin
Gwelliannau wrth ddatrys mapiau pridd er mwyn amcangyfrif stociau carbon y pridd yn gywir
Data ynghylch stoc pysgodfeydd môr 12 milltir forol 
Dulliau o fesur llygredd o ffynonellau amaethyddol fel amonia
Effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd ar ryngweithiadau'r pridd - hinsawdd - cnydau, ynghyd â’r effeithiau dilynol ar gynhyrchu cnydau a da byw
Gwybodaeth feintiol am sut mae INNS yn effeithio'n andwyol ar bobl
Deall ymatebion ac adferiad traethlin in sgil effeithio'n andwyol at bobl
Gwell data ar dosrannu tarddiad llygredd gwasgaredig i'r aer, dŵr a thir
Deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddŵr a bregusrwydd ecosystemau, cynefinoedd sy'n dibynnu ar ddwr a rhywogaethau
Isaf Tystiolaeth ymddygiadol a chymdeithasol ar gamau gweithredu ac agweddau'r cyhoedd/ rheolwr y tir
Manteision coetiroedd-economaidd
Capasiti tir yng Nghymru i ddefnyddio gwastraff er mwyn ei ddefnyddio'n fuddiol
Cyfraddau dal a storio carbon mewn gwahanol rywogaethau o goed
Gwybodaeth am gyflwr ar safleoedd geoamrywiaeth anstatudol (RIGS)
Data cyson ledled Cymru ar leoliad a chyflwr Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SPGN)
Cyflwr presennol a thueddiadau priddoedd yng Nghymru a'r graddau y meant yn agored i niwed gan y defnydd o dir a'u gallu i'w wrthsefyll, rheoli tir, a hinsawdd a phatrymau tywydd cyfnewidiol
Data mater gronynnol cydraniad uwch ar gyfer mapio cyfleoedd mewn ardaloedd trefol
Gwella dealltwriaeth o gydnerthedd ecosystemau (gan gynnwys deall y cysylltiadau rhwng cydnerthedd ecosystemau a'r buddion y maent yn eu darparu)
Gwella ein dealltwriaeth o'r modd y mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar grynodiadau NOx
Gwybodaeth am ddosbarthiad plau chlefydau
Asesiad yn seiliedig ar le o newidiadau posibl, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol, i 'gyfanswm yr effaith ar iechyd ' (meddyliol, corfforol a lles) sy'n deillio o opsiynau rheoli tir yn y dyfodol
Maint, oed a chyflwr coed stryd mewn ardaloedd trefol
Map llonyddwch Cymru
Ffurfiant y pridd a chyfraddau colli
Dealltwriaeth o ba mor agored i niwed a gwydn yw ein hymylon arfordirol o ran ffactorau newid yn yr hinsawdd e.e. mwy o stormydd a chynnydd yn lefel y môr newid yn y glawiad a thymheredd

 

Darllenwch fwy o fanylion y tu ôl i'r rhestr o anghenion tystiolaeth (saesneg in unig)

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf