Cynnydd ar y bylchau tystiolaeth yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016

Systemau tir âr

Roeddem am wybod a oedd systemau tir âr yng Nghymru'n cynnal lefelau carbon yn y pridd.

Bydd data ar lefel y carbon mewn pridd o Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir yn helpu gyda hyn.

Addasiadau mewn systemau ffermio

Ychydig o wybodaeth oedd gennym ynghylch hyfywedd addasiadau tebygol mewn systemau ffermio yn sgil y newid yn yr hinsawdd.

Mae mwy o wybodaeth wedi'i hychwanegu at y wybodaeth hon drwy waith a wnaethpwyd gan Dîm Mapio Pridd Llywodraeth Cymru – effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar gnydio.

Arafu llifogydd a phuro dŵr

Mae sylw'n cael ei roi i ddosbarthiad gofodol cyfleoedd i ddefnyddio datrysiadau naturiol i arafu llifogydd a phuro dŵr.

Rydym yn defnyddio mapiau'r System Cynorthwyo Cynllunio Adnoddau Naturiol (SCCAN) yng Nghymru ac ymgysylltu lleol â Datganiadau Ardal.

Glaswelltiroedd

Mae'r trefniadau rheoli ar gyfer glaswelltiroedd gwell sy'n cefnogi ac yn optimeiddio cynhyrchiant ac yn lleihau'r effeithiau negyddol ar systemau eraill wedi'u nodi drwy adolygiad llenyddiaeth.

Rydym yn cynnal hwn o fewn Platfform Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP).

Systemau rheoli coedwigaeth

Roeddem am wybod am systemau rheoli coedwigaeth sy'n annog amrywiaeth ac sy'n gallu cyfrannu at adfer, cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau coetiroedd.

Mae canllawiau Forest Research ar gael bellach.

Gwlyptiroedd a storfeydd dalgylch

Mae sylw'n cael ei roi ar lawr gwlad i fapiau cyfleoedd presennol ar gyfer gwlyptiroedd a chapasiti storfeydd dalgylch ehangach drwy ddefnyddio mapiau SCCAN ac ymgysylltu lleol â Datganiadau Ardal.

Mae sylw'n cael ei roi hefyd i gyfleoedd gofodol i wlyptiroedd gynyddu cysylltedd cynefin a'u helpu i'w rheoli gan ddefnyddio mapiau SCCAN ac ymgysylltu lleol â Datganiadau Ardal.

Amgylchedd morol

Mae gennym gofnodion newydd ar gwmpas Sabellaria spinulosa yn yr amgylchedd morol.

Coetiroedd

Bydd yr adroddiad ar Gyflwr y Stocrestr Coedwigoedd Genedlaethol, sydd i’w gyhoeddi ym mis Chwefror 2020, yn darparu data newydd ar gwmpas a chyflwr coetiroedd, gan gynnwys coedwigoedd conwydd.

Crynodiadau nitrogen ocsid

Gallwn ddefnyddio data modelu Llywodraeth Cymru i'n helpu i ddeall sut mae'r amgylchedd adeiledig yn effeithio ar grynodiadau nitrogen ocsid.

Nid oes angen rhai o'r anghenion a nodwyd yn Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2016 mwyach oherwydd rydym wedi'u hailystyried gan ddefnyddio ein dull asesu.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf