Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2020

Dyma ein hail asesiad o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru, gan gynnwys effaith Cymru yn fyd-eang

Mae SoNaRR yn asesu sut caiff adnoddau naturiol eu rheoli’n gynaliadwy yng Nghymru, ac mae’n cyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer gweithredu. Mae’r adran Pontydd i’r Dyfodol yn cynnig ymagwedd drawsnewidiol ar gyfer sut gall Cymru gau’r bwlch rhwng ble rydyn ni nawr a ble mae angen i ni fod i wireddu dyfodol cynaliadwy. Mae SoNaRR yn asesu Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (neu SMNR, Sustainable Management of Natural Resources) yn erbyn pedwar nod hirdymor SMNR. Mae’r rhain fel a ganlyn: diogelu a chyfoethogi stociau adnoddau naturiol, ecosystemau gwydn, lleoedd iach ar gyfer pobl, ac economi atgynhyrchiol. Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r dystiolaeth orau sydd ar gael i gefnogi’r asesiad mewn wyth pennod ar themâu trawsbynciol ac wyth pennod ar ecosystemau eang. Mae’r pwysau, yr effeithiau a’r cyfleoedd allweddol wedi’u crynhoi yn y cofrestrau adnoddau naturiol, a gellir archwilio’r rhain gan ddefnyddio’r ffeithluniau rhyngweithiol.

Gwyliwch ein fideo - animeiddiad byr yn cyflwyno prif negeseuon SoNaRR2020

Dolenni cyflym SoNaRR2020

Y strwythur a’r cynnwys yn llawn 

Lawrlwytho SoNaRR2020: Crynodeb Gweithredol o’r Adroddiad (PDF)

Cyflwyniad – dysgwch beth yw SoNaRR

Pontydd i'r dyfodol – Sut gall Cymru gau’r bwlch rhwng ble rydyn ni nawr a ble mae angen i ni fod i wireddu dyfodol cynaliadwy

Trawsnewid y system fwyd
Trawsnewid y system ynni
Trawsnewid y system drafnidiaeth

Asesiad o Nod 1: Diogelu a chyfoethogi stociau adnoddau naturiol
Asesiad o Nod 2: Ecosystemau gwydn
Asesiad o Nod 3: Lleoedd iach ar gyfer pobl
Asesiad o Nod 4: Economi atgynhyrchiol

Cofrestrau adnoddau naturiol – yn crynhoi’r pwysau, yr effeithiau, ein hasesiad o SMNR a’r cyfleoedd i weithredu ar draws yr ecosystemau eang

Ffeithluniau – golwg newydd ar y pwysau a’r cyfleoedd

Asesiad o ecosystemau – asesu SMNR o fewn yr wyth ecosystem eang
Asesiad o themâu trawsbynciol – asesu SMNR o fewn yr wyth thema drawsbynciol

Astudiaethau achos – archwiliwch brosiectau ysbrydoledig sy’n gysylltiedig â themâu SoNaRR
Angen tystiolaeth – beth fyddai’n ein helpu gyda’n hasesiad
Ein dull – sut wnaethon ni asesu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy
Lawrlwythiadau SoNaRR2020


Darllenwch nesaf

Rhagair
Y strwythur a'r cynnwys yn llawn
Lawrlwytho SoNaRR2020: Crynodeb Gweithredol o’r Adroddiad (PDF)