Adolygiad Tystiolaeth Prosiect Arddangos Teifi
Crynodeb Gweithredol
Bwriad yr adolygiad tystiolaeth hwn yw cefnogi cynnydd Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi. Mae Prosiect Dalgylch Arddangos Teifi yn bartneriaeth aml-sefydliadol, traws-sector sy’n anelu at wella ansawdd dŵr a’r amgylchedd dŵr ehangach yn nalgylch afon Teifi, trwy gydweithio a gweithio ystwyth. Bydd llwyddiannau’n cael eu casglu a’u datblygu ar raddfa fwy i’w defnyddio mewn dalgylchoedd afonydd eraill yng Nghymru.
Mae gan ddalgylch afon Teifi dirwedd amrywiol yn cynnwys ardaloedd o ucheldir ac iseldir. Ardal wledig ydyw yn bennaf, ac mae cyfran fawr o’r boblogaeth yn cael ei chyflogi ym maes amaeth, sef y prif ddefnydd tir hefyd. Mae rhywfaint o berygl llifogydd yn y dalgylch. Mae ychydig goedwigaeth yn bresennol yn yr ardaloedd ucheldirol ac mae rhywfaint o goetir llydanddail yn y dalgylch isaf yn bennaf, yn ffinio â’r afon a’i llednentydd.
Mae yna nifer o weithgareddau sy’n effeithio ar ansawdd dŵr yn nalgylch afon Teifi, gan gynnwys gollyngiadau dŵr, tynnu dŵr, llygredd amaethyddol a thaenu deunyddiau ar y tir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio’r gweithgareddau hyn i raddau amrywiol o fewn dalgylch afon Teifi. Mae yna hefyd fecanweithiau statudol ar waith i warchod a gwella amgylchedd dŵr dalgylch afon Teifi, sef Rheoliadau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2017 a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.
Mae Dalgylch Arddangos Teifi yn cynnwys 37 o gyrff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sy’n afonydd, pedwar corff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sy’n llynnoedd, un corff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sy’n drosiannol, aber afon Teifi, ac un corff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr sy’n ddŵr daear. Mae’r newid a welwyd rhwng dosbarthiad llawn Rheoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2021 a dosbarthiad interim Rheoliadau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr 2024 yn cyflwyno darlun cymysg ar gyfer dalgylch afon Teifi. Cynyddodd nifer y cyrff dŵr a gyflawnodd statws ecolegol da cyffredinol o 37% i 44%, a gostyngodd y nifer a gyflawnodd statws ecolegol cymedrol. Fodd bynnag, cynyddodd y nifer a gyflawnodd statws ecolegol gwael hefyd o 14% i 16%.
Mae 18 o gyrff dŵr afonol wedi’u dynodi’n ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA). Cynhelir asesiadau o nodweddion ACA ac asesiadau ansawdd dŵr. Mae eog Iwerydd, llysywen bendoll y môr, y dyfrgi Ewropeaidd, a chrafanc y dŵr yn methu asesiad cyflwr dangosol 2020. Ar gyfer ansawdd dŵr, mae’r asesiad diweddaraf yn dangos gwelliant ar gyfer tri pharamedr ansawdd dŵr, gan gynnwys ffosfforws. Mae un paramedr ansawdd dŵr, mynegai diatom troffig, wedi dirywio.
Aseswyd 12 o baramedrau ansawdd dŵr ar gyfer ACA a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn 2021 a 2024 sydd wedi achosi methiannau corff dŵr. Mae materion ansawdd dŵr yn amrywio ar hyd dalgylch afon Teifi.
Llygredd metel gwenwynig yw’r broblem fwyaf yn y dalgylch uchaf, tra bod llygredd ffosfforws yn broblem yn bennaf yn y dalgylch canol ac isaf. Gwellodd methiannau ffosfforws rhwng 2021 a 2024. Mae trefn hydrolegol yn achosi problem yn un o’r llynnoedd yn y dalgylch uchaf, ond mae trefn llif y brif afon yn bennaf naturiol. Mae nitrogen anorganig tawdd yn broblem yn aber afon Teifi, sydd hefyd yn agored i lygredd tymor byr o ddeunydd ysgarthol yn ystod glawiad uchel. Mae’r cemegyn Cypermethrin wedi achosi problem mewn un o’r cyrff dŵr dalgylch uchaf yn 2021, ac mewn un corff dŵr dalgylch isaf yn 2024. Disgwylir i waddod fod yn broblem yn y dalgylch er mai cyfyngedig yw’r dystiolaeth ar hyn o bryd. Mae rhywogaethau estron goresgynnol yn broblem ar draws y dalgylch er nad yw’r union ddosbarthiad ac effaith yn hysbys.
Mae cyflwr infertebratau yn broblem yn y cyrff dŵr sy’n llynnoedd yn y dalgylch uchaf, ac mae’n anhysbys i raddau helaeth o fewn y cyrff dŵr afonol. Mae cyflwr macroffytau a diatomau yn broblem yn y dalgylchoedd canol ac isaf. Pysgod yw’r prif baramedr sy’n effeithio ar statws ecolegol corff dŵr y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ar draws y dalgylch, ac er bod nifer y cyrff dŵr sy’n methu o ran pysgod yn gostwng o 2021 i 2024, mae difrifoldeb y methiant yn cynyddu mewn dau gorff dŵr. Mae’r galw biocemegol am ocsigen wedi bod yn broblem yn y dalgylch isaf yn flaenorol. Mae hyn wedi gwella yn 2024 heb unrhyw fethiannau o ran y galw biocemegol am ocsigen yn y dalgylch. Bu mân welliant mewn ocsigen tawdd.
Mae gwaith modelu dosraniad ffynhonnell ffosfforws (SAGIS) ac ymchwiliadau rhesymau dros beidio â chyflawni statws da CNC yn dangos mai llygredd o ddŵr gwastraff a defnydd tir gwledig yw’r achosion mwyaf o fethiant ansawdd dŵr ar draws dalgylch afon Teifi. Mae’r effeithiau’n amrywio fesul corff dŵr ac yn dibynnu ar y dull ymchwilio.
Mae llawer o gamau gweithredu eisoes yn cael eu cymryd gan randdeiliaid o fewn y dalgylch i wella ansawdd dŵr a’r amgylchedd dŵr. Ar wahân i ddyletswyddau statudol CNC a Dŵr Cymru, mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys: cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol ac ailddolennu afonydd gan y prosiect Pedair Afon LIFE; cynlluniau i leihau llygredd metel trwy brosiectau adfer mwyngloddiau metel; arolygon cerdded dros afonydd i nodi rhwystrau i fudo pysgod; cynllun rheoli maetholion a nifer o weithgareddau ymgysylltu cymunedol.
Mae’r dulliau ymyrryd i Brosiect Dalgylch Arddangos Teifi eu datblygu, er mwyn cynorthwyo’r gweithgareddau parhaus y manylir arnynt uchod, yn cynnwys y canlynol:
- Dull rheoli dalgylch sy’n defnyddio technegau adfer afonydd a rheoli llifogydd naturiol
- Dulliau wedi’u hanelu at addasu rheolaeth tir
- Ystyried dulliau rheoleiddio hyblyg lle gellir nodi manteision
- Dull cydweithredol o ailgysylltu pobl â byd natur i gyflawni adferiad diwylliannol ac amgylcheddol
- Mae modelau a mapiau ar gael i helpu i dargedu rhai ymyriadau, ochr yn ochr â’r ffynonellau tystiolaeth a gwybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad hwn.
Bwriedir i’r argymhellion yn yr adroddiad hwn lywio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni prosiectau yn y dyfodol drwy’r bartneriaeth. Bydd cyflawni’r argymhellion hyn yn dibynnu ar sicrhau cyllid prosiect digonol ac ymdrech ar y cyd. I grynhoi, argymhellir:
- Ystyried ansicrwydd asesu ansawdd dŵr ac oedi
- Ceisio llenwi bylchau tystiolaeth megis gwybodaeth am systemau carthffosiaeth preifat ac effeithiau gwaddod
- Defnyddio cyfuniad o ddulliau i wella’r amgylchedd dŵr a fydd yn cryfhau cysylltiadau diwylliannol a chydweithio tra’n ystyried ardaloedd dynodedig, ymyrraeth yn unol â’r anghenion, rhwydweithiau cynefinoedd a thargedu cyrff dŵr penodol a amlinellir yn yr adroddiad
- Canolbwyntio ar gynyddu manylion gronynnog yn y sylfaen dystiolaeth bresennol a modelau presennol, yn lle creu modelu ychwanegol ar raddfa dalgylch.