Diweddaru’ch manylion neu ganslo rhybuddion llifogydd

Diweddaru’ch manylion neu ganslo rhybuddion llifogydd

Os ydych wedi cofrestru i gael rhybuddion llifogydd, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif er mwyn:

  • diweddaru eich manylion
  • canslo eich cyfrif

Neu gallwch hefyd ffonio gwasanaeth 24 awr Floodline:

Gweld y ffioedd galwadau ffôn ar gov.uk

Problemau derbyn rhybuddion llifogydd

Os ydych yn credu eich bod wedi cofrestru â’r gwasanaeth ond heb dderbyn rhybudd llifogydd neu neges llifogydd - byddwch yn barod, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu cadarnhau eich bod wedi cofrestru â’ch manylion cyswllt cyfredol.

Sut yr ydym yn prosesu eich data

Mae’r System Rhybuddion Llifogydd yn cael ei rheoli gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Sut y mae eich data personol yn cael eu prosesu

Data personol cwsmeriaid yng Nghymru yn unig y gall Cyfoeth Naturiol Cymru ei brosesu. 

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir ar gyfer y gwasanaeth hwn yn unig er mwyn rhoi rhybuddion a gwybodaeth am lifogydd. I ddysgu mwy am y ffordd yr ydym yn prosesu eich data personol gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Diweddarwyd ddiwethaf