Hygyrchedd gwefannau eraill CNC

Mae rhai o'r gwasanaethau y gallwch eu defnyddio ar-lein gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal ar wefannau ar wahân i'r prif safle, cyfoethnaturiol.cymru.

Rydyn ni wedi blaenoriaethu’r gwaith o adolygu a datrys problemau hygyrchedd ar ein gwefannau sydd â’r nifer uchaf o bobl yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol.

Gweler ein prif ddatganiad hygyrchedd ar gyfer cyfoethnaturiol.cymru am adborth, llywodraethu cydymffurfiaeth a manylion cyswllt gorfodi.

Mapiau perygl llifogydd hirdymor

Parth: https://maps.cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Nid yw'r map yn cydymffurfio â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau.

  • Nid yw'r mapiau’n hygyrch, ac er eu bod wedi'u heithrio o'r gofynion presennol, nid oes ganddynt ddewis o destun arall.

Rydyn ni wrthi’n adolygu ein gwasanaeth perygl llifogydd hirdymor, a byddwn yn ceisio ei wneud yn fwy hygyrch fel rhan o'n map.

Y Gofrestr Gyhoeddus

Parth: https://publicregister.naturalresources.wales/

Mae'r wefan hon wedi'i hadeiladu mewn trefn resymegol sy'n caniatáu i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig wneud hynny'n effeithiol, ac mae'n rhoi ffocws gweladwy i ddefnyddwyr golwg gwan. Ychwanegwyd dolen ‘neidio cynnwys’ sy'n helpu'r defnyddiwr ymhellach i gyrraedd prif gynnwys tudalen yn effeithlon.

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau isod:

  • problemau cyferbyniad isel e.e. botwm chwilio’r hafan
  • Labeli ar goll ar feysydd chwilio e.e. offeryn adborth trydydd parti Hotjar
  • Botymau gwag e.e. offeryn adborth trydydd parti Hotjar
  • 'testun amgen' coll
  • problemau lleoliad y brif 'ddolen neidio cynnwys’
  • ffocws anghywir wrth ddefnyddio'r ddolen 'Top'
  • nid yw darllenwyr sgrin yn gallu ffocysu ar ganlyniadau'r chwiliad a'u darllen
  • mae nifer fawr o ddogfennau hanesyddol nad ydynt yn hygyrch

Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.

Rhybuddion a hysbysiadau llifogydd

Mae nifer o broblemau hygyrchedd gan y gwasanaeth gwirio rhybudd llifogydd presennol. Bydd hwn yn cael ei ddiffodd ym mis Tachwedd 2020.

Mae’r gwasanaeth rhybudd llifogydd newydd wedi cael ei brofi ar gyfer hygyrchedd.

Gweler y datganiad hygyrchedd ar gyfer rhybuddion llifogydd a’r gwasanaeth perygl llifogydd 5 diwrnod

Lefelau afonydd 

Mae nifer o broblemau hygyrchedd gan y gwasanaeth gwirio lefelau afonydd presennol. Bydd hwn yn cael ei ddiffodd ym mis Tachwedd 2020.

Mae’r gwasanaeth rhybudd llifogydd newydd wedi cael ei brofi ar gyfer hygyrchedd.

Gweler y datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth lefelau afonydd

Hwb Ymgynghori (Citizen space)

Parth: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.

Porth Fy Nghyfrif CNC a chofrestru Cludwyr Gwastraff

Parth: https://account.naturalresources.wales/ a https://wastecarrier.naturalresources.wales

Mae gan y wefan hon rywfaint o gydymffurfiaeth naturiol â hygyrchedd oherwydd rhagosodiadau'r porwr.

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau oherwydd y problemau canlynol:

  • dim dolen ‘neidio cynnwys’
  • nid oes unrhyw gymorth ffocws gweladwy ar gael
  • nid yw trefn ffocws mewn tudalennau wedi eu steilio a heb eu steilio yn gywir
  • cyferbyniad isel ar fotymau
  • mae rhywfaint o’r testun yn amhriodol o fach
  • labeli Aria wedi eu defnyddio’n anghywir
  • dolenni diangen
  • awtogwblhau coll
  • mae defnyddio darllenydd sgrin yn anos nag y dylai fod
  • mae nifer o broblemau ychwanegol wrth ddefnyddio darllenydd sgrin JAWs

Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd i'w hadolygu.

Gwasanaeth cyflwyno gwybodaeth am dynnu dŵr

Parth: https://abstractionreturns.naturalresources.wales/

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, a hynny oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a’r eithriad a nodir isod:

  • Wrth ddefnyddio iOS Voiceover nid yw trefn y tabiau’n rhesymegol a gall ffocws elfennau’r penawdau hefyd fod allan o drefn

Nodwyd y materion hyn fel rhan o brofion hygyrchedd ffurfiol.

Porth Rheoleiddiol

Defnyddir ar gyfer: gwneud cais am esemptiadau gwastraff a dŵr, gwastraff peryglus, trwyddedu amgylcheddol a dibenion eraill.

Parth: https://nrwregulatory.naturalresources.wales/cy

Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o drefn ffocws a ffocws gweladwy i ddefnyddwyr golwg gwan ac mae'n cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr.

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:

  • ffocws gweladwy nad yw'n cyd-fynd â safon newydd CNC
  • nifer o broblemau cyferbyniad ar logo, dolenni, newidydd iaith, chwilio a chanlyniadau chwilio
  • dim dolen ‘neidio cynnwys’
  • colli priodoledd iaith ar y newidydd iaith
  • strwythur pennawd anghywir
  • botymau amddifad niferus
  • nid yw trefn ffocws wedi ei sefydlu'n briodol ar gyfer darllenwyr sgrin, yn enwedig ar gyfer tablau

Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.

Porth API CNC

Parth: https://api-portal.naturalresources.wales/

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.

Catalog Llyfrgell

Parth: https://catllyfr.cyfoethnaturiol.cymru/

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.

E-Werthiannau Pren (Timber e-sales)

Parth: https://esales.naturalresources.wales/

Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:

  • ffocws gweladwy ar goll
  • trefn tabio afresymegol
  • problemau cyferbynnu niferus
  • dim dolen ‘neidio cynnwys’
  • rhybuddion dolen amheus a achoswyd gan ddiffyg manylder
  • testun amgen ar goll ar gyfer rhai delweddau
  • dolenni wedi torri
  • nid yw rhai elfennau testun a chynllun yn newid maint yn briodol
  • teitl coll a phriodoledd iaith ar goll ar y togl iaith
  • rhai labeli coll

Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.

Chwiliwr data dŵr ymdrochi

Parth: https://environment.data.gov.uk/wales/bathing-waters/profiles/?lang=cy

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.

Arsylwi Dyfroedd Cymru

Parth: https://waterwatchwales.naturalresourceswales.gov.uk/

Mae'r wefan hon yn cynnig rhywfaint o allu hygyrchedd naturiol yn seiliedig ar osodiadau diofyn y porwr

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n rhannol â safon Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 AA, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a'r eithriadau canlynol:

  • ffocws gweladwy nad yw'n gyson nac yn cyd-fynd â safon CNC
  • problemau cyferbynnu niferus
  • dim dolen ‘neidio cynnwys’
  • rhybuddion dolenni amheus a achoswyd gan ddiffyg manylder
  • defnyddio darllenydd sgrin yn anodd wrth lywio dewislenni
  • anallu i ryngweithio â phob elfen gan ddefnyddio darllenydd sgrin
  • dolenni dewislen i ddogfennau nad ydynt yn hygyrch

Nodwyd y problemau hyn fel rhan o asesiad hygyrchedd sylfaenol mewnol ac fe'u hychwanegwyd at y map trywydd digidol i'w hadolygu.

​Taclo Tipio Cymru

Parth: https://www.flytippingactionwales.org/cy

Mae’r wefan hon wrthi’n cael ei hadolygu a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn bo hir.

Llwybr Arfordir Cymru  

Parth: https://www.walescoastpath.gov.uk/accessibility-standards/?lang=cy

Gweler datganiad hygyrchedd Llwybr Arfordir Cymru

Cysylltu

Gallwch weld ein map trywydd ar gyfer gwelliannau hygyrchedd ar ein prif ddatganiad hygyrchedd ar gyfer cyfoethnaturiol.cymru yn ogystal â manylion am bwy i gysylltu â nhw ynghylch adborth, llywodraethu cydymffurfiaeth a manylion cyswllt gorfodi ar gyfer unrhyw un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf