Telerau ac amodau

Mae naturalresources.wales a cyfoethnaturiol.cymru yn wefannau sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (cyfeirir atynt fel ‘Ni'). 

Wrth gyrchu ein safle rydych chi’r defnyddiwr (‘Chi’) yn derbyn ein Telerau ac Amodau.

Defnyddio cyfoethnaturiol.cymru 

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru’n cael ei chynnal er mwyn i chi gael ei defnyddio ac edrych arni.

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn ar gyfer dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n tresbasu ar hawliau, nac yn cyfyngu neu’n rhwystro trydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r safle.

Rydyn ni’n ceisio diweddaru ein safle’n rheolaidd a gallwn ni newid y cynnwys unrhyw bryd.

Drwy ddefnyddio’r safle hwn, rydych chi’n dangos eich bod chi’n derbyn y telerau defnyddio hyn a’ch bod chi’n cytuno eu dilyn nhw. Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau defnyddio, gofynnwn i chi beidio â defnyddio’n safle.

Ymwrthodiad

Er ein bod ni’n ymdrechu hyd ein gallu i gadw gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru’n gyfredol, ni allwn ni roi gwarantiadau nac amodau ynglŷn â chywirdeb yr wybodaeth sydd ar y safle.

Defnyddio ein cynnwys

Caiff ein gwefan ni ei chyhoeddi o dan Drwydded Agored y Llywodraeth, a gallwch chi atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyhyd â’ch bod chi’n ufuddhau i delerau’r drwydded honno.

Mae rhagor o wybodaeth yn ein datganiad hawlfraint.

Creu dolenni at ein tudalennau ni

Rydyn ni’n croesawu ac yn annog gwefannau eraill i roi dolenni at yr wybodaeth sydd ar y tudalennau hyn, ac nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd wrthon ni i greu dolen at cyfoethnaturiol.cymru.

Fodd bynnag, nid oes caniatâd i chi awgrymu bod eich gwefan chi’n gysylltiedig â Cyfoeth Naturiol Cymru nac yn cael ei chymeradwyo gennyn ni.

O’r wefan hon

Er gwybodaeth yn unig mae’r rhannau o’r wefan sy’n cynnwys dolenni at safleoedd ac adnoddau eraill sy’n cael eu darparu gan drydydd parti. 

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio bob tro ac nid oes rheolaeth gennyn ni dros argaeledd y tudalennau mae’r dolenni’n arwain atynt. 

Nid ydyn ni’n gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau sydd â dolenni atynt. Nid yw’r ffaith bod gwefan yn cael ei rhestru yn golygu ei bod yn cael ei chymeradwyo o gwbl.

Gwybodaeth sy’n cael ei chasglu wrth i chi ymweld â’n gwefan

Wrth ddefnyddio ein safle ni, rydych chi’n cydsynio bod yr holl ddata rydych chi’n ei ddarparu’n fanwl gywir.

Mae ein polisi preifatrwydd a chwcis yn egluro sut rydyn ni’n defnyddio unrhyw wybodaeth a gasglwn wrth i chi ymweld â’n gwefan.  

Gallwch ddarganfod sut rydyn ni’n rheoli eich gwybodaeth bersonol a sut i wneud cais o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Diogelu rhag feirysau

Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob gam o’i gynhyrchu. Mae rhedeg rhaglen gwrth-feirws ar yr holl ddeunydd rydych chi’n ei lawrlwytho o’r we’n syniad da.

Ni allwn ni gymryd cyfrifoldeb dros golli, ymyrryd na difrodi eich data neu eich system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd a ddaeth o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Feirysau, hacio a throseddau eraill

Ni ddylech chi gamddefnyddio ein safle drwy gyflwyno firysau, ymwelwyr diwahoddiad, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni ddylech chi geisio cael mynediad heb ganiatâd at ein safle, y gweinydd y mae ein safle wedi storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu fas data sy’n gysylltiedig â’n safle. Ni ddylech ymosod ar ein safle mewn ymosodiad gwadu-gwasanaeth nac ymosodiad  gwadu-gwasanaeth ar wasgar.

Wrth dorri’r amodau hyn, byddech chi’n troseddu o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni’n adrodd am unrhyw drosedd o’r fath wrth yr awdurdodau perthnasol sy’n gorfodi’r gyfraith a byddwn yn cydweithio â’r awdurdodau hynny gan ddatgelu pwy ydych chi wrthyn nhw.

Adolygu’r telerau hyn

Efallai y byddwn ni’n adolygu’r telerau a’r amodau hyn yn ddirybudd rywbryd. Edrychwch ar y telerau a’r amodau hyn yn rheolaidd, oherwydd mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl i newid gael ei wneud yn golygu eich bod chi’n derbyn y newid hwnnw.

Diweddarwyd diwethaf 2 Mai 2018

Diweddarwyd ddiwethaf