Addysg a sgiliau: dod o hyd i gyrsiau hyfforddi
BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella
Cyrsiau hyfforddi trawsgwricwlaidd am ddim wedi’u cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru ar gyfer addysgwyr, myfyrwyr ac arweinwyr grwpiau.
Gweminarau
Ymunwch â’n gweminarau am syniadau i fynd â’ch addysgu neu eich arweinyddiaeth allan i’r amgylchedd naturiol.
Cyrsiau wyneb yn wyneb
Mae ein cyrsiau hyfforddi yn cynnig gweithgareddau ymarferol, syniadau a mynediad at adnoddau dysgu. Byddant yn eich helpu i feithrin hyder ac i rwydweithio ag eraill.
Sbotolau ar Grymlyn (Cyflwynir yn Gymraeg) - Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn, ger Abertawe 14/05/2024
Sbotolau ar Grymlyn (Cyflwynwyd yn Saesneg) - Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn, ger Abertawe 15/05/2024
Cyflwynir mewn partneriaeth â STEM Learning UK.
Ymchwiliwch i drosedd amgylcheddol
Mae’r cwrs hwn yn gwahodd cyfranogwyr i ddod yn Swyddogion yr Amgylchedd dan hyfforddiant am y diwrnod. A allwch chi ymchwilio, casglu tystiolaeth, a chreu achos i fynd â’r troseddwr i’r llys?
25 Ebrill 2024 ym Mangor, Gwynedd – cyflwynir yn Saesneg
6 Mehefin 2024, Fferm Fforest, Caerdydd – cyflwynir yn Saesneg
Defnyddio arfordir Cymru ar gyfer dysgu
Mae’r cwrs hwn yn archwilio’r buddion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a ddaw i ni yn sgil yr arfordir. Allwch chi hyrwyddo’r cyfleoedd dysgu arfordirol gwych?
16 Mai 2024 yn Nhalacre, Sir y Fflint – cyflwynir yn Saesneg ond adnoddau ddwyieithol ar gael
21 Mai 2024 yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin – cyflwynir yn Saesneg ond adnoddau ddwyieithol ar gael
Diogelu neu ddatblygu ardal naturiol
Mae’r cwrs hwn yn archwilio manteision ac anfanteision cais cynllunio a sut gallai effeithio ar y dirwedd. A allwch chi gyflwyno eich canfyddiadau i gefnogi neu wrthwynebu’r cais?