Pa fath o gysylltiad sydd gennych â natur?

Rydym yn awyddus i helpu ac annog pawb i fentro allan, mwynhau a chysylltu â’r amgylchedd naturiol.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur arwain at lu o fanteision, gan gynnwys:

  • cyfleoedd i wneud mwy o weithgarwch corfforol
  • gochel rhag gordewdra a diabetes math 2
  • atal prinder Fitamin D
  • lleihau symptomau straen ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
  • cyfrannu at drin dementia
  • lleihau golwg byr ymhlith plant
  • hyrwyddo cyrhaeddiad academaidd
  • datblygu sgiliau cyflogadwyedd
  • helpu i rwystro gwybodaeth a dealltwriaeth amgylcheddol rhag cael eu colli

Dilyniant naturiol

Rydym wedi datblygu ein model dilyniant naturiol i helpu i esbonio bod gan bawb y potensial i symud, gam wrth gam, o fod yn yr amgylchedd naturiol a chysylltu ag ef i sefydlu sawl ymddygiad cadarnhaol gydol oes a fydd yn ein Delwedd o boster Dilyniant Naturiolhannog ni i gyd i ofalu am ein byd.

Lawrlwythwch y poster dilyniant naturiol

Beth yw’r camau?

Cam un – bod ynghanol natur

Rhaid cael profiad ymarferol o natur cyn y gellir datblygu cysylltiad trwy fwynhad! 

Cam dau – cysylltu â natur

Ar ôl inni dreulio digon o amser yn yr awyr agored, mae perthynas yn dechrau ffurfio. Gorau yn y byd yw’r profiad hwn, gorau yn y byd fydd y canlyniadau.

Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i annog a chreu’r cysylltiad:

  • ewch ati i annog defnydd o barciau, coedydd a thraethau lleol
  • anogwch fwy o brosiectau iechyd a dysgu yn yr awyr agored, fel caeau chwarae bwytadwy a chyfleusterau chwarae natur
  • gweithiwch gyda’ch gilydd i godi ymwybyddiaeth a gwella sgiliau’n ymwneud â’r manteision sy’n deillio o wneud y gorau o natur

Cam tri – ennill gwybodaeth

Ar ôl inni greu cysylltiad â byd natur, mae ein gwybodaeth am brosesau a systemau naturiol yn dechrau datblygu.

Wrth inni ennill gwybodaeth a dealltwriaeth newydd, gallwn symud rhwng camau 3 a 6 nifer o weithiau.

Cam pedwar – datblygu dealltwriaeth

Gydag amser a phrofiad, bydd gwell dealltwriaeth o ecosystemau ac adnoddau naturiol yn datblygu, gan ein galluogi i ystyried sut y mae’r camau a gymerwn yn effeithio ar yr amgylchedd.

Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i wella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth:

  • trwy fynd ar drywydd cyfleoedd i ddysgu “yn, ynghylch a thros” natur
  • trwy gyflwyno neu gymryd rhan mewn gweithgareddau i’r teulu neu drefnu digwyddiadau dysgu
  • trwy gefnogi mentrau addysgol fel Ysgolion Iach, Eco Ysgolion, Ysgolion Coedwig ac Ysgolion Arfordir
  • trwy gynnig neu gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi a datblygu prosiectau cymunedol fel clybiau garddio

Cam pump – meithrin safbwynt personol

Gan fod dealltwriaeth dda o’n lle ym myd natur wedi datblygu bellach, byddwn yn ffurfio ein barn ein hunain ynghylch materion lleol a byd-eang e.e. ein safbwynt personol ynghylch newid hinsawdd neu ein hagwedd at ailgylchu.

Cam chwech – dylanwadu ar eraill

Ar ôl creu cysylltiad â natur, ynghyd â datblygu dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol a safbwynt personol, yn awr gallwn addysgu a dylanwadu ar eraill.

Gall pob un ohonom gymryd camau cadarnhaol i addysgu a dylanwadu ar eraill:

  • trwy ddarparu neu gyfeirio at leoliadau a chyfleoedd i wirfoddoli yn yr awyr agored
  • trwy ddylanwadu ar warchod gwyrddfannau ac ychwanegu atynt e.e. parciau, coed a choetiroedd lleol
  • trwy hysbysu eraill ynghylch y manteision lu sy’n deillio o’r amgylchedd naturiol
  • trwy ddylanwadu ar sefydliadau addysgu a hyfforddi

Ein rôl ni

Mae CNC wedi datblygu’r camau Dilyniant Naturiol hyn er mwyn cefnogi twf y dinasyddion egwyddorol a gwybodus y mae ein cwricwlwm newydd yng Nghymru yn anelu at eu datblygu.

Am ragor o wybodaeth: addysg@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

A oes unrhyw beth o’i le ar y dudalen hon? Rhowch adborth inni

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf