Mae tystiolaeth o bob rhan o'r byd yn dangos bod bod yn yr amgylchedd naturiol yn dda inni mewn sawl ffordd, a thrwy sefydlu cysylltiad â natur yn ifanc, gellir ffurfio ymddygiadau iach a fydd yn para drwy gydol eich oes.

Rydym wedi datblygu amrywiaeth o weithgareddau, gemau ac adnoddau i ennyn diddordeb dysgwyr, waeth beth fo'u hoed, lefel eu ffitrwydd na'u rhyw.


Gweithgareddau a Gemau

Bydd y gemau a'r gweithgareddau yn ein llyfryn Iechyd a Lles  yn eich helpu i lwyddo yn y cwricwlwm cyfredol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.

O ymarfer corff yn y gwyllt i adeiladu llochesau, mae'r 14 o weithgareddau a gemau yn y llyfryn hwn yn canolbwyntio ar ddangos sut i ddefnyddio'r amgylchedd naturiol fel amgylchedd ymlaciol a chyffrous i hwyluso iechyd a lles.

Boed hynny’n gwrdd â choeden neu gymryd rhan mewn rownd o 'Bwytadwy neu Farwol', gellir defnyddio'r gweithgareddau hyn i feithrin perthynas â byd natur, gan wella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol ar yr un pryd.

Adnoddau a gwybodaeth ategol

Gweithgaredd 6: Ffyngau bwytadwy neu farwol – (cardiau adnoddau)

Gweithgaredd 6: Planhigion bwytadwy neu farwol – (cardiau adnoddau)

Gweithgaredd 13: Coginio â thân gwersyll - (nodyn gwybodaeth)

Gweithgaredd 13: Gosod cylch boncyffion - (nodyn gwybodaeth)
 
Gweithgaredd 14: Cysgodfeydd a chuddfannau - (nodyn gwybodaeth)

Gweithgaredd 14: Her llochesau – (cardiau adnoddau)

 

Ymchwil dysgu yn yr awyr agored

Eisiau dysgu am fanteision iechyd a lles dysgu yn yr awyr agored? Angen cyfiawnhau mynd â'ch dysgwyr i’r awyr agored? Edrychwch ar ein posteri gwybodaeth.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf