Mae mathemateg o'n cwmpas ni felly beth am wneud y gorau o'r amgylchedd naturiol ac ennyn diddordeb eich dysgwyr mewn rhai gweithgareddau ymarferol ac ystyrlon.

O archwilio mesuriad ansafonol trwy adeiladu tyrau o frigau i greu lluniau cymesur gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, mae'r amgylchedd naturiol yn newid yn gyson a gall helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau mathemategol.

Gweithgareddau a Gemau

Bydd y gemau a'r gweithgareddau yn ein llyfryn Mathemateg a Rhifedd yn eich helpu i gyflawni'r hyn sydd yn y cwricwlwm presennol a bydd yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben Cwricwlwm i Gymru.

O drefnu, dilyniannu ac archwilio siâp dail i ddarganfod os gallwch symud yn gyflymach na draenogod mae ein gemau a'n gweithgareddau yn rhyngweithiol ac wedi'u cynllunio i gael eich dysgwyr i symud.

Mesur coed

O fesur uchder coed i ddarganfod oedran coeden, gall y gweithgareddau hyn helpu i wreiddio dealltwriaeth o nifer o gysyniadau mathemategol wrth wneud y gorau o'r ystafell ddosbarth y tu allan.

Gweithgareddau mesur coed  (cynllun gweithgaredd)
Pecyn mesur coed eich hun  (templed)

Ymchwil dysgu yn yr awyr agored

Eisiau dysgu am fanteision iechyd a lles dysgu yn yr awyr agored? Angen cyfiawnhau mynd â'ch dysgwyr i’r awyr agored? Edrychwch ar ein posteri gwybodaeth.

 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf