A yw eich lleoliad ar arfordir Cymru?  Neu efallai eich bod yn bwriadu trefnu ymweliad ag arfordir Cymru a dysgu amdano gyda'ch dysgwyr?  Os ydych yn chwilio am syniadau mae'r adnoddau hyn ar eich cyfer chi! 

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Cefndir - Beth yw Llwybr Arfordir Cymru?

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr troed arfordirol di-dor, 870 milltir o hyd, sy’n ymestyn ar hyd arfordir Cymru gyfan. Mae’r llwybr yn nyddu drwy drefi a phentrefi, dros glogwyni a thraethau tywodlyd, gan wibio weithiau i’r mewndir cyn dod allan unwaith eto mewn cildraeth cysgodol. Mae’r llwybr cyfan yn hygyrch i gerddwyr ac mae rhai rhannau sy’n addas i feicwyr, teuluoedd â chadeiriau gwthio, pobl â symudedd cyfyngedig, a phobl ar gefn ceffyl. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio mewn partneriaeth agos ag 16 awdurdod arfordirol lleol a 2 barc cenedlaethol ar gydgysylltu, dosbarthu grantiau Llywodraeth Cymru, monitro, datblygu a marchnata’r Llwybr. Ceir arwyddion ar y llwybr sy’n arddangos y logo melyn a glas arbennig – ‘draig-gragen’. Fe’i rheolir ar lawr gwlad gan yr 16 awdurdod lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Penfro.

Gofynnwch i’ch dysgwyr gynllunio ymweliad diwrnod â Llwybr Arfordir Cymru 

Rhowch sialens i’ch dysgwyr drwy ofyn iddynt ymchwilio, cynllunio a threfnu ymweliad diwrnod i gerdded rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae ein cynllun gweithgaredd yn egluro beth sydd angen ei wneud gam wrth gam – o’r dasg o ystyried y logisteg i ysgrifennu amserlen.

Cynllun gweithgaredd - Cynllunio ymweliad diwrnod â Llwybr Arfordir Cymru
Cyflwyniad PowerPoint - Cynllunio ymweliad diwrnod â Llwybr Arfordir Cymr
Taflen waith - Beth yw eich pellter?
Taflen waith - Ysgrifennu amserlen taith gerdded ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru: Engrhaifft

Faint o amser fyddai’n gymryd i’ch dysgwyr gerdded Llwybr Arfordir Cymru ar ei hyd? 

Ar gyfartaledd, mae'n cymryd tua thri mis i gwblhau'r Llwybr, a hynny drwy gerdded 10.5 milltir y dydd ar gyfartaledd. Faint o amser fyddai'n gymryd i'ch dysgwyr? Beth am osod y dasg o ddarganfod yr ateb drwy ddefnyddio eich taflen waith.

Taflen waith - Beth yw eich pellter?

A fyddai draenog yn gallu cwblhau Llwybr Arfordir Cymru yn gynt na'ch dysgwyr? Sut mae eu cyflymder nhw yn cymharu ag anifeiliaid? Ydyn nhw'n gwibio fel ysgyfarnogod neu ydyn nhw'n cerdded fel malwod? Yn ein gweithgaredd 'Ydw i'n gynt na?' gofynnir i'ch dysgwyr weithio mewn parau i fesur yr amser a gymer i deithio pellter penodol drwy hopian, loncian a cherdded, gan gymharu cyflymder a’r amser teithio ar draws pellter penodol.

Cynllun gweithgaredd – Ydw i’n gynt na? 

Marchnata Llwybr Arfordir Cymru – a yw eich dysgwyr yn gallu mynd un gam ymhellach a helpu i hyrwyddo’r Llwybr?

Mae lansio a hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru wedi codi proffil Cymru a'i harfordir. Mae’n bwysig i economi Cymru, gan fod twristiaid yn gwario miliynau o bunnoedd y dydd yng Nghymru ac mae miloedd o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant twristiaeth. A all eich dysgwyr ymgymryd â rôl arbenigwyr marchnata a helpu i hyrwyddo'r Llwybr?

Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu taflen hyrwyddo

A yw eich dysgwyr yn gallu cynllunio ac ysgrifennu taflen hyrwyddo i gyfleu eu prif negeseuon?

Cynllun gweithgaredd - Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu taflen hyrwyddo
Cardiau adnoddau – Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru
Cyflwyniad PowerPoint– Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu taflen hyrwyddo 

Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Dylunio poster hyrwyddo

Mae posteri yn ffordd wych o hyrwyddo safle neu gynefin ac yn galluogi’r dysgwyr i rannu eu neges mewn ffordd greadigol a hwyliog. Gall y posteri fod mor fanwl neu mor syml ag y mae eich dysgwyr yn ei ddymuno. Gyda dyluniad trawiadol, ffont ffynci neu ddelwedd gyffrous – gall dylunio poster hyrwyddo fod yn adnodd ardderchog i'ch dysgwyr ddenu a thynnu sylw darpar ddefnyddwyr Llwybr Arfordir Cymru a gellir ei greu'n ddigidol neu â llaw.

Cynllun gweithgaredd - Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Dylunio poster hyrwyddo
Cardiau adnoddau - Camu ymlaen – Marchnata Llwybr Arfordir Cymru
Cyflwyniad PowerPoint – Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Dylunio poster hyrwyddo

Marchnata Llwybr Arfordir Cymru:  Ysgrifennu cylchlythyr hyrwyddo 

Mae cylchlythyr syml dros e-bost yn ffordd hawdd o gadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr ffyddlon neu ddarpar ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru.A all eich dysgwyr ddylunio templed syml ac ysgrifennu cynnwys i gynyddu ymwybyddiaeth eu darllenwyr o Lwybr Arfordir Cymru a’u diddordeb ynddo? Mae ein cynllun gweithgaredd yn esbonio beth i'w wneud gam wrth gam. 

Cynllun gweithgaredd - Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru:  Ysgrifennu cylchlythyr hyrwyddo
Cardiau adnoddau - Camu ymlaen – Marchnata Llwybr Arfordir Cymru
Cyflwyniad PowerPoint – Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru:  Ysgrifennu cylchlythyr hyrwyddo

Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu gwefan hyrwyddo 

Mae gwefan yn ei gwneud hi’n hawdd iawn i bobl ddarganfod mwy am Lwybr Arfordir Cymru, cynllunio eu hymweliad, ac ateb cwestiynau posibl sydd gan ymwelwyr. A yw eich dysgwyr yn gallu cynllunio ac ysgrifennu gwefan hyrwyddol i rannu gwybodaeth am y Llwybr ac annog pobl i ymweld ag ef? 

Cynllun gweithgaredd – Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu gwefan hyrwyddo
Cardiau adnoddau - Camu ymlaen – Marchnata Llwybr Arfordir Cymru
Cyflwyniad PowerPoint – Camu ymlaen - Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: Ysgrifennu gwefan hyrwyddo

Dysgu mwy am Lwybr Arfordir Cymru

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut i gynllunio ymweliad, pethau i’w gwneud a’r newyddion diweddaraf am y Llwybr, gwiriwch wefan Llwybr Arfordir Cymru. 

Ydych chi’n aros gyda’r Urdd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru? 

Os ydych yn mynd â'ch dysgwyr i ganolfannau Llangrannog neu Fae Caerdydd yr Urdd, edrychwch ar y pecynnau adnoddau mae staff Llwybr Arfordir Cymru wedi'u creu mewn partneriaeth â'r Urdd. Gan fod Llwybr Arfordir Cymru ar garreg eich drws yn llythrennol, mae'r pecynnau adnoddau yn cynnwys ffeithiau hwyliog am fannau o ddiddordeb a gweithgareddau i chi eu cwblhau gyda'ch grŵp yn ystod eich arhosiad. Mae’n bosibl eu lawrlwytho am ddim ac maen nhw ar gael ar wefan Llwybr Arfordir Cymru 

Chwilio am syniadau am weithgareddau ar gyfer ymweliad ag arfordir Cymru? 

Ar ein tudalen amgylcheddau arfordirol a morol, byddwch yn dod o hyd i gynlluniau gweithgaredd a fydd yn trafod popeth o sut i gwblhau saffari arfordirol i awgrymiadau ar gyfer helfa sborion arfordirol. 

Dysgwch am ein rhywogaethau morol prin yng Nghymru

Ydych chi erioed wedi clywed am Faelgwn?  Darganfyddwch stori un o siarcod mwyaf prin y byd a lle mae'n byw yng Nghymru.  Mae Prosiect Angelshark:Cymru yn brosiect cydweithredol o dan arweiniad Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n ceisio diogelu a deall Maelgwn yn well yng Nghymru.

Mae eLyfr wedi’i ddatblygu ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno deall mwy am y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol ynghyd â Llawlyfr eLyfr i athrawon.  I gael gafael ar yr adnoddau ewch e-lyfr Angylion Cymru.

Gronant, Sir Ddinbych a Thalacre, Sir Fflint bryd hynny a nawr

Yn y gorffennol, byddai system twyni arfordirol Gogledd-ddwyrain Cymru wedi ymestyn o'r Rhyl i Dalacre, wedi'i thorri gan aber Afon Clwyd yn unig.  Dros amser mae'r dirwedd wedi newid, ac mae'r ardal bellach yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn gyfoethog o ran bioamrywiaeth. 

Dysgwch am sut mae tirwedd Gronant a Thalacre wedi newid dros amser drwy wylio ein hamrywiaeth o glipiau fideo.  O ddod yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd i gael ei rheoli ar gyfer amrywiaeth o ddibenion heddiw, cewch ddysgu'r cyfan drwy wylio'r cyfweliadau uniongyrchol hyn â rhai o'r bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn chwarae yn yr ardal. 

Effeithiau llygredd plastig ar hyd ein harfordir yng Nghymru 

Mae llygredd plastig yn achosi niwed mawr i’r organebau sy’n dod ar ei draws.  O gwrelau bychain bach i forfilod enfawr, mae miliynau o adar ac anifeiliaid yn marw bob blwyddyn gan eu bod yn llyncu plastig morol neu’n mynd yn sownd ynddo.  Mae’r gweithgareddau ‘Ysbwriel parhaol’ a ‘Croesi’r crwbanod’ ar ein gwedudalen Sbwriel, tipio anghyfreithlon a gwastraff yn rhoi sylw i’r peryglon sy’n wynebu bywyd morol a bydd yn helpu eich dysgwyr i ymchwilio i faint o amser mae’n gymryd i eitemau sy’n cael eu taflu i ddadelfennu yn y môr. 

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf