Sut i gynnal gwaith modelu manwl ar allyriadau amonia, GN 036

Gwneir gwaith modelu manwl trwy ddefnyddio model gwasgariad aer cyfrifiadurol. Mae hwn yn weithgaredd arbenigol; argymhellwn eich bod yn defnyddio ymgynghorydd cymwys i gyflawni'r gwaith modelu manwl. Sicrhewch fod yr ymgynghorydd yn defnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ar wefan CNC neu mae'n debygol y caiff yr adroddiadau eu gwrthod.

Gallwch ddod o hyd i fwy o ganllawiau manwl ar y gwefan GOV.UK  

Gofynnwn i chi ddilyn yr argymhellion gan ddatblygwyr y feddalwedd wrth ddefnyddio modelau cyfrifiadurol. 

Pennu math y ffynhonnell ar gyfer y model

Er mwyn modelu lefel wasgaru'r amonia a ryddheir o waith ffermio da byw dwys, mae'n bwysig bod nodweddion y tarddle, fel cyfradd allyrru'r llygrydd, tymheredd a chyflymder nwyon egsôst, a nifer yr adeiladau neu gyfleusterau storio tail, ynghyd â'u ffurfweddiad, wedi'u cynrychioli'n briodol yn y model. 

Os defnyddir ffactorau allyrru cyfartalog yn y gwaith modelu, bydd yn amcan digonol, yn gyffredinol, tybio bod lefelau rhyddhau nwyon yn gyfartal dros y flwyddyn. Fodd bynnag, bydd angen eu dyrannu'n gywir rhwng tarddleoedd gwahanol, yn enwedig os ceir gwahaniaethau sylweddol mewn allyriadau fesul lleoliad neu dros amser. Er bod amonia, ar ei ffurf bur, yn ysgafnach nag aer, mae'n cael ei allyrru fel mân-gyfansoddyn yn yr aer a ryddheir o ddatblygiadau, a bydd yn gwasgaru mewn modd tebyg i'r aer sy'n ei gludo.

Os yw'r model gwasgaru'n ei gwneud yn bosibl pennu dwysedd y nwyon a ryddheir, dylid sicrhau y defnyddir y gosodiad ar gyfer aer yn hytrach nag amonia ar ei ben ei hun. 

Bydd y math o ddatblygiad yn cael effaith sylweddol ar y nodweddion gwasgaru, a bydd yn bwysig sicrhau bod y rhain wedi'u cynrychioli'n gywir yn y model.  

Er enghraifft, ar fferm, bydd y mathau o adeiladau'n amrywio'n fawr, o siediau gyda gwyntyllau to cyflymder uchel i weithrediadau buarth lle ceir bach iawn o adeiladau ar y maes.

Bydd angen i'r sawl sy'n modelu feddwl yn ofalus ynghylch sut y caiff y rhain eu cynrychioli yn y model, a dylid cynnwys cyfiawnhad priodol o'r dull a ddewisir yn adroddiad y gwaith modelu. 

Sut y gellir cynrychioli mathau arferol o adeiladau mewn model

Dylid modelu siediau â thyllau aer yn y to fel cyfres o darddleoedd penodol uchel sydd â nodweddion rhyddhau priodol (llif cyfeintiol, tymheredd ac ati). Dylai'r sawl sy'n modelu nodi'r modd o ddefnyddio gwyntyllau. Mae rhai unedau'n defnyddio gwyntyllau sydd â chyflymder amrywiol, sy'n arwain at ryddhau nwyon ar gyflymder llai pan fo'r gwyntyllau yn troi'n araf o'u gymharu â gwyntyllau o'r fath sydd â swîts ‘tanio/diffodd’. Lle ceir nifer fawr o dyllau aer, efallai y bydd angen eu cyfuno'n nifer llai o darddleoedd cyfansawdd sydd wedi'u dosbarthu er mwyn cynrychioli'r sefyllfa ryddhau. Os defnyddir diamedr sy'n llawer mwy, i bob pwrpas, na'r diamedr ffisegol gwirioneddol, mae'n bosibl y bydd y cyfrifiad o godiad y ffrwd yn anghywir.

Gall defnyddio diamedr corn effeithiol hefyd gael effaith ar waith modelu'r ôl-wynt o ben y corn. Awgrymir defnyddio cyflymder yr aer a ryddheir gan gorn unigol, ynghyd â diamedr y corn hwnnw, i gynrychioli'r tarddleoedd cyfunol. Fodd bynnag, dylid cynyddu'r gyfradd allyrru màs er mwyn cynrychioli'r tarddle cyfunol. Efallai y bydd angen cynnal dadansoddiad o'r sensitifrwydd.

Mae'n bosibl y bydd gan rai siediau system wyntyllu sydd â gwyntyllau ar ddau dalcen yr adeilad. Os yw rhes y talcenni siediau'n hir, neu fod y sièd yn llydan, mae'n bosibl modelu siediau o'r fath fel tarddle lefel isel er mwyn sicrhau y cyfrifir effaith ôl-wynt yr adeilad. Er enghraifft, gellir modelu'r math hwn fel cyfres o darddleoedd penodol sydd â chyflymder allfflwcs o sero, gan gynnwys effeithiau ôl-wynt adeiladau. Fel arfer, gellir ystyried bod siediau sydd wedi'u gwyntyllu fel ‘blychau sy'n gollwng’ a gellir eu modelu fel tarddleoedd cyfeintiol.

Ar gyfer anifeiliaid buarth, bydd angen dyrannu'r ffactor allyrru priodol rhwng ardal y gweithrediad buarth ac unrhyw adeilad mewn cyfrannedd â'r amser y mae'r anifeiliaid yn ei dreulio yn y ddau leoliad.

Mae'n ofyniad gennym fod y sawl sy'n modelu yn tybio y bydd 20% o ollyngiadau tail yn digwydd y tu allan i'r adeilad. Ni fydd hyn yn newid oni chytunir hynny â rheoleiddwyr eraill yn y DU.

Os ydych chi'n defnyddio'r ffactor allyriadau maes o 0.045 ar gyfer yr ardal crwydro, rhaid cymhwyso hyn ir holl praidd.

Data meteorolegol ac effaith y dirwedd

Dylid sicrhau bod pob rhediad o'r model yn seiliedig ar werth pum mlynedd (neu dair blynedd o leiaf os nad yw hyn yn bosibl) o ddata meteorolegol cynrychiadol a gasglwyd o'r orsaf feteorolegol agosaf i'r safle arfaethedig. Dylid sicrhau y gwneir rhediad ar wahân ar gyfer pob blwyddyn o ddata meteorolegol yn ei thro, a dylid defnyddio'r cyfartaledd blynyddol a ragfynegir uchaf o'r cyfnod o bum mlynedd fel sail i'r asesiad.

Onid yw data meteorolegol addas a fesurwyd ar gael, dylid defnyddio data darogan tywydd rhifol (NWP) o safon uchel, e.e. data darogan tywydd rhifol cydraniad llorweddol uchel (1.5 cilometr) gan y Swyddfa Dywydd a echdynnwyd ar gyfer y safle arfaethedig yn benodol. Dylid ystyried effeithiau'r dirwedd yn unol â'r argymhellion cyfredol gan ddatblygwr y feddalwedd modelu gwasgariad.  Dylid rhoi cyfiawnhad mewn achos lle mae model a gyflwynir yn gwyro o argymhellion datblygwr y feddalwedd. 

Dull o fodelu lefelau gwasgaru a dyddodi amonia

 Gellir dod o hyd i bob un o'r safleoedd sensitif yng Nghymru y mae gwaith modelu amonia yn ofynnol ar eu cyfer drwy ddefnyddio'n map data agored

Mae ADMS ac AERMOD yn ddau fodel gwasgariad aer a ddefnyddir yn gyffredin i gyfrifo lefelau gwasgaru amonia a ryddheir o ffermydd dofednod/moch ar gyfer cymwysiadau rheoliadol. Mae ADMS ac AERMOD yn cynnwys modiwl dyddodi ar gyfer cyfrifo'r fflwcs dyddodi sych fesul awr gan dybio bod y cyflymder dyddodi sych yn annibynnol o grynodiad y llygrydd.

Efallai na fydd y modiwlau'n addas i'r pwrpas o fodelu'r amonia a ryddheir mewn allyriadau o ffermydd dwys. Rydym yn awgrymu dull dau gam nes y bydd y modelau'n ymdrin â'r mater hwn yn ddigonol.

Findiwch mas am cam cyntaf modelu manwl

Findiwch mas am yr ail gam o modelu manwl

Diweddarwyd ddiwethaf