Canllawiau ymarferol yw’r Côd Ymarfer Amaethyddol Da (llywodraeth Cymru) i helpu ffermwyr a rheolwyr tir i amddiffyn yr amgylchedd y maen nhw'n gweithio ynddi.

Gwastraff amaethyddol

Gwastraff amaethyddol yw unrhyw sylwedd neu wrthrych o eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth neu arddwriaeth y mae’r deilydd yn cael gwared ohono, yn bwriadu cael gwared ohono neu y mae gofyn cael gwared ohono. Mae’n wastraff sy’n cael ei gynhyrchu’n benodol gan weithgareddau amaethyddol.

 

Tynnu dŵr

Os ydych yn bwriadu tynnu dŵr o’r ddaear neu o unrhyw ddŵr wyneb, efallai y bydd yn rhaid i chi gael trwydded gennym ni.  

Perygl llifogydd

Fel fferm, efallai bod perygl lligogydd i'ch tir, hyd yn oed os nad yw eich tŷ yn. Mae llawer o gamau bach, syml y gallwch eu cymryd i baratoi eich fferm ar gyfer llifogydd a lleihau effaith llifogydd ar eich fferm.

Os ydych yn berchen ar dir neu eiddo ar hyd afon neu gwrs dŵr arall, gan gynnwys cwlfer, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau ar gyfer rheoli dŵr.

System drin carthion

Os oes tanc trin ar eich fferm yna mae’n rheidrwydd cyfreithiol ei gofrestru gyda ni.

Os oes system drin carthion ar eich fferm neu os oes unrhyw beth arall yn cael ei ollwng i ddŵr, efallai bod yn rhaid i chi gael trwydded amaethyddol.

Ffermio dwys (moch ac ieir)

Gall ffermydd moch a dofednod effeithio ar yr amgylchedd drwy ryddhau llygryddion.

Amddiffyn tirweddau

Os ydych yn rheoli tir sydd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), mae'n rhaid i chi ei reoli mewn modd sy'n helpu i gadw ei nodweddion bywyd gwyllt a daearegol arbennig.

Gwarchod rhywogaethau

Mae rhai planhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys eu safleoedd bridio a mannau gorffwys, yn cael eu diogelu rhag aflonyddwch a niwed.

Canllawiau ar ddefnyddio dip defaid

Mae'n rhaid i chi gofrestru eithriad / ymgeisio am drwydded amgylcheddol os ydych eisiau gwaredu dip defaid ar dir, hyd yn oed dim ond ychydig ohono.

Rheoli coed ar eich tir

Mae’n drosedd cwympo coed heb drwydded os nad oes eithriad perthnasol.

Algau gwyrdd-las

Mae algâu gwyrddlas i’w cael yn naturiol yn nyfroedd mewndirol, aberoedd a’r môr.

Dysgwch am ordyfiant algâu gwyrddlas, sut y mae'n effeithio arnoch chi, a beth ddylech chi ei wneud os gwelwch chi achos ohono.

Diweddarwyd ddiwethaf