Cynllun gwerthu 2023-24

Mae'r cynllun gwerthu 2023 - 24 yn dangos sut y byddwn yn dyrannu cyfanswm cyfaint ein cynnyrch blynyddol rhwng y pedwar digwyddiad gwerthu ar-lein. Mae’r cyfeintiau y bwriadwn eu marchnata ym mhob digwyddiad gwerthu hefyd wedi’u rhannu rhwng cynhyrchu uniongyrchol o ran cynhyrchion pren crwn, a gwerthiannau coed sy’n sefyll.

Tabl o'r cynnig cyfaint targed arfaethedig cyfartalog (m3)

Dyddiad Coed sy’n sefyll

eWerthiant Ebrill - 25/04/2023

180,000 m3obs

eWerthiant Gorffennaf - 01/08/2023

180,000 m3obs

eWerthiant Hydref - 22/10/2023

180,000 m3obs

eWerthiant Chwefror - 07/02/2024

180,000 m3obs

Cyfanswm

720,000 m3obs

Contractau hirdymor

Contractau pum mlynedd yw contractau hirdymor fel arfer. Cânt eu cynnig ar ffurf gwerthiannau coed sy’n sefyll neu ymyl y ffordd. Caiff contractau hirdymor eu rhoi ar dendr yn ôl cyfaint penodol, sydd wedi’i rannu’n gyfartal dros gyfnod y contract. Caiff prisiau contractau ymyl y ffordd eu diwygio'n flynyddol fel arfer, a chaiff prisiau contractau coed sy'n sefyll eu diwygio yn ôl y lot.

Nid oes cynlluniau i gynnig unrhyw gontractau hirdymor pellach ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu’r sefyllfa a byddwn yn hysbysebu unrhyw gyfleoedd ar gyfer contractau pellach yn ôl yr angen.

Manteision

Roedd y contractau hyn yn cynnig:

  • cyflenwad hirdymor gwarantedig o bren
  • cymorth ar gyfer buddsoddi yn niwydiant pren Cymru

Y broses dendro

Mae'r rhan fwyaf o'n gwerthiannau pren ar y farchnad agored yn cael eu cynnal yn electronig, trwy ein rhaglen e-werthiant Pren. Y prif fformat ar gyfer gwerthu cystadleuol yw tendr electronig. Rydym yn gobeithio y bydd mwyafrif ein cwsmeriaid yn elwa trwy brynu pren ar-lein, ac yn gallu manteisio ar hyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm Gwerthu Pren.

Cod ymarfer

Cod ymarfer cludo pren

Diweddarwyd ddiwethaf