Egwyddorion craidd ar gyfer cynnwys gwaith adfer neu wella mewn cais am ddatblygiad morol neu arfordirol

Mae gennym bum egwyddor graidd ar gyfer cynllunwyr sy’n ystyried gwaith gwella fel rhan o gynnig datblygu:

  1. Dylai gwaith adfer a gwella geisio cynyddu gwytnwch ecosystemau morol
  2. Dylai gwaith adfer a gwella fod yn gyflawnadwy ac yn gynaliadwy yn y tymor hir
  3. Ni ddylai cynnwys gwaith adfer a gwella mewn cynnig niweidio gweithgareddau gweithredol
  4. Gellir cyflawni gwaith adfer a gwella ar unrhyw raddfa ac mewn unrhyw leoliad
  5. Mae cyflawni gwaith adfer a gwella yn cynnig cyfleoedd dysgu

Lawrlwythwch yr egwyddorion sy’n cefnogi gwaith adfer a gwella mewn cynigion datblygu morol neu arfordirol i ddysgu mwy.

Diweddarwyd ddiwethaf