Rheoli gwaddod: yn y môr, ar yr arfordir ac mewn aber

Os oes angen i chi symud gwaddod o un rhan o wely'r môr i rywle arall fel rhan o'ch gweithgareddau rheoli, mae angen i chi benderfynu sut i wneud hynny.

Ymhlith y gweithgareddau a allai olygu bod angen i chi symud gwaddod mae:

  • gwaith i amddiffyn yr arfordir
  • gweithgareddau carthu a gwaredu er mwyn cynnal a chadw
  • prosiectau seilwaith — megis datblygiadau ynni adnewyddadwy a gwaith cysylltiedig (ee. gosod ceblau)
  • datblygiadau ar y môr, neu ddatblygiadau harbwr neu borthladd

Rydym yn eich annog i ystyried sut y gallwch ymgymryd â'ch gweithgareddau rheoli gwaddod mewn modd cynaliadwy.

Darllenwch Rheoli gwaddod morol ac arfordirol yn gynaliadwy (Saesneg yn unig) i'ch helpu i:

  • ddod o hyd i'r dewisiadau a flaenoriaethir ar gyfer symud gwaddod
  • deall ein dull gweithredu
  • deall pam mae rheoli gwaddodion yn gynaliadwy yn bwysig
  • deall sut rydym yn cymhwyso polisïau a deddfwriaeth

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf