Asesiadau a chanllawiau tirwedd
Rydym yn amgyffred tirweddau fel lleoliadau amgylcheddol sy’n seiliedig ar leoedd:
- y mae eu cymeriad yn deillio o gamau a rhyngweithiadau adnoddau naturiol a ffactorau diwylliannol;
 - sy’n darparu cyd-destun integreiddio ar raddfa tirwedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy;
 - sy’n darparu manteision lles amryfal i bobl
 

Ffoto©John Briggs
Cawn ein harwain gan y Confensiwn Tirweddau Ewropeaidd, o fewn y cyd-destun canlynol:
- Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, yng nghyd-destun Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016; a lles, yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
 
Rydym yn cynnig tystiolaeth, canllawiau a chyngor yn ymwneud ag amrywiaeth eang o bolisïau, rhaglenni, cynlluniau a phrosiectau. Mae’r rhain yn cynnwys Polisi Cynllunio Cymru a Rheoli Datblygu, Tirweddau Dynodedig, Cynllunio Morol ac Asesiadau Lles lleol.
Ymhellach, rydym yn ystyried tirweddau wrth reoli ein hystad – mae hon yn cynnwys Ystad Goed Llywodraeth Cymru, sy’n cyfateb i 7% o Gymru. Rydym yn monitro ein tystiolaeth parthed tirweddau trwy gyfrwng Adroddiad CNC o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) a byddwn yn cyfrannu at Ddatganiadau Ardal.
Cyd-destun Polisi
- Confensiwn Tirweddau Ewrop
 - Tirweddau Dynodedig, Adolygiad Marsden a chyfraniad CNC
 - Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Datganiad Polisi Cenedlaethol ar Adnoddau Naturiol
 - Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
 - Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
 - Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Pholisi Cynllunio Cymru
 
Asesiadau Tirwedd
- LANDMAP
 - Monitro newidiadau yn y dirwedd
 - Cynlluniau Rheoli Tirweddau Dynodedig
 - Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Cenedlaethol
 - Ardaloedd Cymeriad Morol Cenedlaethol
 - Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Lleol
 - Ardaloedd cymeriad morwedd lleol
 - Tirweddau Hanesyddol Cofrestredig
 - Ardaloedd Tawel
 - Coed Trefol
 
Canllawiau
- Pam y mae tirweddau’n bwysig
 - LANDMAP
 - Ardaloedd Tirwedd Arbennig
 - Tirweddau Hanesyddol
 - Cymeriad Tirwedd
 - Morweddau
 - Asesiad o’r Effaith ar y Dirwedd ac Asesiad o’r Effaith Weledol, ynghyd ag Asesiad Sensitifrwydd a Chapasiti
 - Seilwaith Ynni a Thirweddau
 - Safon Coedwigaeth y DU (adran 6.4 tirweddau) a chanllawiau pellach ar dirweddau (gan Gomisiwn Coedwigaeth yr Alban)
 - Seilwaith Gwyrdd
 - Mannau Gleision Lleol
 
Darllenwch y canllawiau ar gynnal Asesiad Sensitifrwydd Tirwedd