Mae gwymon yn adnodd naturiol morol pwysig. Mae cynaeafu gwymon yn weithgaredd mwyfwy poblogaidd a gofynnir I CNC yn amlach am gyngor ynghylch y pwnc hwn.

CNC yw’r corff amgylcheddol statudol yng Nghymru ar gyfer yr amgylchedd a’n dyletswydd yw ymgyrraedd at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy er mwyn cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau a’r buddion a ddaw yn eu sgil.

Mae CNC wedi llunio dwy ddogfen ganllaw ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am gynaeafu gwymon â llaw. Yn ‘Byddwn yn hoffi cynaeafu gwymon fy hun – beth sydd angen i mi wybod?’ (Saesneg in unig) ceir crynodeb o’r pwyntiau hollbwysig yn ymwneud â chynaeafu gwymon ac mae ‘Detailed guidance for Seaweed harvesting – Hand Gathering’ (Saesneg in unig) yn cynnwys mwy o wybodaeth a bydd yn arbennig o ddefnyddiol i’r rheini sy’n rhoi cyngor yn ymwneud â chynaeafu gwymon.

Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â chasglu gwymon â llaw, at ddefnydd personol a masnachol. Mae’n cynnwys casglu gwymon sy’n sownd a gwymon sydd wedi’i olchi ar draethau fel drifft ac mae’n berthnasol i flaendraethau a mannau islanwol hyd at 12 milltir fôr o’r lan. Nid yw’r canllaw yn ymdrin â chasglu â pheiriant na thyfu gwymon.

Gwneud cais i gynaeafu neu dyfu gwymon

Byddwch angen trwydded forol i gynaeafu neu dyfu gwymon yn fasnachol.

Diweddarwyd ddiwethaf