Cyhoeddi ein canlyniadau ar gyfer yr ymgynghoriad ynghylch diweddaru Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd

Bydd eich syniadau yn helpu i ddatblygu’r Cynlluniau Rheoli Basn Afon a’r camau gweithredu arfaethedig ar gyfer gwelliannau rhwng 2015 a 2021. Bydd y cynlluniau yn cael eu cyhoeddi a’u cymeradwyo gan y Gweinidogion ar 22 Rhagfyr 2015.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 10 Ebrill 2015. Ceir crynodeb o’r canlyniadau yn y Ddogfen Crynodeb Ymatebion ar gyfer Ardal Basn Afon Dyfrdwy a Gorllewin Cymru. 

I gael canlyniadau Ardal Basn Afon Hafren, ewch i wefan Gov.UK.