Hysbysa Cyfoeth Naturiol Cymru ei fod yn bwriadu gwneud gwelliannau i Lifddor Y Rhyl ar Y Cyt (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SJ 00580 80135). Bydd y gwelliannau arfaethedig yn cynnwys y canlynol: gosod llifddor, monitro lefel yr afon a chyflenwad solar.

Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y bydd y gwelliannau’n debygol o effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â hwy. Er na chynigir llunio datganiad amgylcheddol, mae’r cynllun wedi ystyried ffactorau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r safle ac wedi ymgorffori gwelliannau amgylcheddol pa fo hynny’n ymarferol. Gellir gweld y cynllun yn Nepo Rhuddlan Cyfoeth Naturiol Cymru, Ffordd Abergele, Rhuddlan, Y Rhyl, LL18 5UE rhwng 10:00 – 16:00, dydd Llun i ddydd Gwener. 

Dylai pwy bynnag sy’n dymuno cyflwyno sylwadau’n ymwneud ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwelliannau arfaethedig wneud hynny’n ysgrifenedig, gan eu hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.

Andrew Owen Basford

Cyflawni Prosiectau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffordd Caer
Bwcle, Sir y Fflint
CH7 3AJ

andrew.basford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk