Hela eithriedig ar dir yr ydym yn ei reoli

Mae'n anghyfreithlon hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn yng Nghymru.

Mae yna esemptiadau sy'n caniatáu hela ar gyfer rhai mathau o reolaeth heb greulondeb. Gelwir hyn yn hela eithriedig.

Mae esemptiadau yn cynnwys canlyn a chodi mamaliaid gwyllt (gan gynnwys llwynogod) gan ddefnyddio dim mwy na dau gi.  Dim ond i atal neu leihau difrod difrifol y byddai’r mamaliaid gwyllt yn ei achosi i dda byw, adar hela neu adar gwyllt y gall hyn ddigwydd. 

Edrychwch ar y rhestr lawn o esemptiadau a restrir yn Neddf Hela 2004.

Weithiau mae angen rheoli poblogaethau o rai mathau o famaliaid gwyllt er mwyn diogelu ein gallu i gyflawni ein hamcan rheoli tir. Mae hyn yn cynnwys gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig a chapasiti cynhyrchu.

Mae gennym hefyd gyfrifoldeb cyfreithiol i alluogi gwaith i reoli poblogaethau rhai mamaliaid gwyllt ar y tir rydym yn ei reoli a allai achosi difrod i dda byw neu gnydau cymdogion sy’n ffermio.

Ni chaniateir hela eithriedig ar unrhyw ran o’r tir rydym yn ei reoli heb ganiatâd penodol.

Bydd yr holl drwyddedau a roddir ar gyfer hela eithriedig yn berthnasol i ardaloedd sydd wedi'u diffinio'n glir ac y gellir eu rheoli.  Byddwn yn monitro'r trwyddedau hyn o bryd i'w gilydd i sicrhau y cedwir at y telerau.

Rhoi gwybod am hela anghyfreithlon

Os ydych yn credu bod gweithgaredd anghyfreithlon yn digwydd ar dir yr ydym yn ei reoli, rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein neu ffoniwch 03000 65 3000.

Efallai y byddwch hefyd am drosglwyddo tystiolaeth i'r heddlu.

Diweddarwyd ddiwethaf