Cael a chynnal cynllun rheoli coedwig: cam wrth gam
Gwiriwch yr hyn sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am gynllun rheoli coedwig a'i gynnal.
Gwirio a oes angen cynllun rheoli coedwig arnoch
Pwy all wneud cais
Darganfyddwch:
- pwy all gwblhau'r cais
- pwy sy'n gyfrifol yn gyfreithiol am y cynllun rheoli coedwig cymeradwy
Paratoi cais
Paratoi eich cais am gynllun
Darllenwch sut i baratoi cais am gynllun rheoli coedwig er mwyn:
- bod yn glir ynglŷn â'r hyn y byddwn yn gofyn amdano yn y cais ar-lein
- darganfod pa elfennau sensitifrwydd i'w nodi a'u hasesu
- lawrlwytho templedi i'w cwblhau a'u lanlwytho
- darganfod pa fapiau i'w paratoi
Os oes gennych chi gynllun eisoes yr hoffech chi ei gyflwyno
Darllenwch sut i gyflwyno cynllun sy’n bodoli eisoes i gefnogi eich cais am gymeradwyaeth reoleiddiol gan CNC.
Gwneud cais
Gwneud cais ar-lein nawr
Gwneud cais am gynllun rheoli coedwig
Cyhoeddi eich cynlluniau arfaethedig
Yn ystod y broses gymeradwyo, byddwn yn cyhoeddi amlinelliad o'ch cais ar ein cofrestr o gynlluniau rheoli coedwigoedd am 28 diwrnod.
Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl weld eich cynigion a gwneud sylwadau arnynt.
Cyhoeddi eich cynllun rheoli coedwig cymeradwy
Os byddwn yn cymeradwyo eich cynllun rheoli coedwig, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cymeradwyaeth ar gyfer cwympo coed a chytundeb rheoli tir i chi ei lofnodi a'i ddychwelyd.
Mae'r cytundeb rheoli tir yn ddogfen gyfreithiol sy'n egluro'r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'ch cynllun rheoli coedwig cymeradwy.
Diwygio eich cynllun
Monitro eich gwaith
Estyn eich cynllun rheoli coedwig am flynyddoedd 5 i 10
I estyn cymeradwyaeth eich cynllun rheoli coedwig i gwmpasu blynyddoedd 5 i 10 o'r dyddiad cymeradwyo gwreiddiol, rhaid i chi gwblhau a chyflwyno ffurflen adolygu Blwyddyn 5.
Os na fyddwch yn cyflwyno adolygiad Blwyddyn 5, bydd eich cymeradwyaeth reoleiddiol yn dod i ben ar ddyddiad dod i ben eich cytundeb rheoli tir. I barhau ag unrhyw waith, rhaid i chi ailymgeisio am gynllun rheoli coedwig newydd.