Anfonwch eich ffurflen gwastraff

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn:

  • monitro cydymffurfiaeth y safle gydag amodau eu trwydded amgylcheddol
  • cadw cofrestr gyhoeddus
  • casglu ystadegau cenedlaethol am wastraff

Templed ffurflen wastraff wedi'i ddiweddaru

Rydym wedi diwygio’r ffurflen electronig ar gyfer cofnodion gwastraff o fis Ionawr-Mawrth 2023 ymlaen.

Bydd y daenlen newydd yn eich galluogi i ddewis blynyddoedd adrodd 2023 ymlaen ond gellir ei defnyddio hefyd am flynyddoedd blaenorol o 2020.

Rydym wedi e-bostio copi o'r templed wedi'i ddiweddaru i weithredwyr gwastraff sydd wedi cyflwyno ffurflen electronig yn y gorffennol. 

Os nad ydych wedi derbyn y daenlen, neu os oes gennych unrhyw anawsterau wrth fynd ati cysylltwch â waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Cwblhau'r daenlen

Sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich gwybodaeth gan ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r daenlen er mwyn i ni allu ei dderbyn.

Cwblhewch yr holl feysydd gorfodol ar y daenlen a defnyddiwch eich rhif Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (EPR) yn hytrach nag unrhyw rifau cyfeirio hanesyddol. 

Os oes gan eich safle fwy nag un drwydded wastraff, rhaid i chi gwblhau ffurflen ar gyfer pob un o'r trwyddedau.

Os cyflawnir amrywiaeth o weithrediadau gwastraff ar y safle o dan un drwydded, gofynnwn ichi gwblhau mwy nag un ffurflen er mwyn sicrhau y cofnodir mewnbynnau ac allbynnau pob gweithrediad gwastraff ar wahân.

I ganolfannau gwastraff nad ydynt yn gyfleusterau deunyddiau, dim ond y rhannau cyntaf o’r tri thudalen yn y gweithlyfr â phenawdau glas sydd angen eu cwblhau. Mae’n rhaid i'r cyfleusterau deunyddiau gwblhau'r taflenni llawn.

Ffurflenni papur

Os na allwch gyflwyno eich ffurflen drwy e-bostio’r daenlen wedi’i chwblhau, gallwch gwblhau ffurflen bapur Cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen bapur: waste.returns@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Dylid dychwelyd ffurflenni papur wedi'u cwblhau i:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Canolfan Gofal Cwsmeriaid
29 Heol Casnewydd
Caerdydd, CF24 0TP

Sut i ddosbarthu ac asesu gwastraff

Cymorth ar sut i ddewis y cod EWC cywir ar gyfer gwastraff.

Terfynau amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwastraff

Ffurflenni chwarterol

Chwarteri Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni

1 Ionawr i 31 Mawrth

30 Ebrill

1 Ebrill i 30 Mehefin

31 Gorffennaf

1 Gorffennaf i 30 Medi

31 Hydref

1 Hydref i 31 Rhagfyr

31 Ionawr

Ffurflenni blynyddol

Cyfnod ffurflenni blynyddol Dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni

1 Ionawr i 31 Rhagfyr

31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Diweddarwyd ddiwethaf