Datblygu cynllun ar gyfer oes gyfan trawsleoliad cadwraeth
Bydd angen cynllun manwl ar gyfer pob trawsleoliad cadwraeth arfaethedig sy'n gymesur â risg a chymhlethdod yr hyn a gynigir. Pan fo modd, dylech seilio eich methodoleg ar arferion gorau sefydledig. Os yw unrhyw elfennau o'ch cynnig yn newydd neu'n arbrofol, nodwch y rhain yn glir; esboniwch eich rhesymau dros eu defnyddio a sut y byddwch yn rhannu'r canlyniadau i lywio cynigion yn y dyfodol.
Datblygwch gynllun sy'n cynnwys:
- Nodau, amcanion, a chamau gweithredu clir. Dylai eich nod, neu nodau, nodi'r hyn rydych chi'n gobeithio ei gyflawni yn y pen draw. Amcanion yw'r camau y mae angen i chi eu cwblhau i gyflawni eich nod. Camau gweithredu yw'r camau rydych chi'n bwriadu eu cymryd i gyflawni eich amcanion. Dylent fod yn fesuradwy ac yn gyraeddadwy, a dylech allu nodi'n glir sut olwg sydd ar lwyddiant.
- Asesiad o ddichonoldeb a dymunoldeb. Pan fo modd, dylid dylunio trawsleoliad ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol i wneud y mwyaf o fuddion cymdeithasol ac i leihau'r risg o niwed i gymdeithas. Po fwyaf yw'r potensial i drawsleoliad effeithio ar bobl eraill, y mwyaf yw pwysigrwydd strategaeth gyfathrebu effeithiol.
- Asesiad risg – nodwch y risgiau sy'n gysylltiedig â'r prosiect a, phan fo'n briodol, amlinellu strategaethau i liniaru'r risgiau hynny.
- Methodoleg glir ar gyfer oes gyfan y cynnig. Mae’r tri cham yn cynnwys:
- Cyn rhyddhau: dewis safle rhoddwr a derbynnydd, cyrchu stoc, gwella cynefinoedd, a gwaith paratoi arall
- Rhyddhau: dull
- Ar ôl rhyddhau: rheoli anghenion y rhywogaeth, rheoli gwrthdaro
- Cynllun adnoddau – eglurwch sut y darperir adnoddau ar gyfer y prosiect. Mae adnoddau’n cynnwys cyllid, darparu nwyddau neu wasanaethau, ymrwymiadau i gefnogaeth gan bartneriaid, ac amser gwirfoddolwyr. Dylai hyn gynnwys adnoddau ar gyfer yr holl ymyriadau drwy gydol oes gyfan y cynllun, gan gynnwys rheoli ar ôl rhyddhau a gweithredu'r strategaeth ymadael. Os oes unrhyw ansicrwydd ynghylch argaeledd cyllid neu gymorth arall, yna dylech fod yn glir ynglŷn â'r rhain. Gallai rhywfaint o ansicrwydd o ran darparu cyllid ar gyfer cynigion tymor hwy fod yn dderbyniol, ar yr amod bod yr ansicrwydd yn cael ei gydnabod, ei gynnwys yn yr asesiad risg, a’i ystyried yn y strategaeth ymadael.
- Strategaeth monitro – dylid cynllunio rhaglenni monitro i alluogi asesu cynnydd yn erbyn nodau/ amcanion/ cerrig milltir er mwyn penderfynu a yw'r trawsleoliad yn llwyddo a/ neu er mwyn nodi'r angen am unrhyw ymyriadau rheoli ac i fonitro unrhyw effeithiau posibl. Os oes angen trwyddedau neu gydsyniadau arnoch, gallant hefyd gynnwys gofynion monitro ac adrodd penodol.
- Strategaeth ymadael glir – rhaid i'r strategaeth ymadael nodi sut y bydd y prosiect yn dod i ben. Gall hyn ddigwydd pan fydd y prosiect wedi cyflawni ei nodau; bydd angen i'r strategaeth ymadael nodi unrhyw reolaeth barhaus a allai fod ei hangen yn y tymor hwy. Rhaid i'r strategaeth ymadael hefyd nodi o dan ba amgylchiadau allai'r prosiect ddod i ben yn gynnar. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sbardunau clir a fyddai’n arwain at ddod â’r prosiect i ben yn gynnar, ac eglurwch sut y byddai’r penderfyniad hwnnw’n cael ei wneud, a chan bwy. Bydd angen i chi sicrhau y bydd unrhyw sbardunau'n cael eu nodi'n brydlon gan eich strategaeth fonitro.
Diweddarwyd ddiwethaf