Cyfarwyddyd i berchnogion a deiliaid Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Gweld a yw tir wedi’i ddynodi’n SoDdGA

I weld a yw tir wedi’i ddynodi’n SoDdGA, defnyddiwch MapDataCymru.

I weld dogfennau’n ymwneud â SoDdGA, er enghraifft y rhesymau dros ei ddynodi a’i leoliad, defnyddiwch y chwiliad safleoedd dynodedig.

Cael caniatâd ar gyfer gweithgareddau ar eich SoDdGA

Gweithgareddau a allai niweidio’r safle

Mae gan bob SoDdGA restr o weithgareddau sydd, yn ein tyb ni, yn debygol o niweidio diddordeb arbennig y safle. Rhestrau OLDSI yw’r rhain. Efallai y bydd gan safleoedd hŷn restrau PDO.

Cyn ichi fynd i’r afael â gweithgareddau a nodir ar y rhestr honno – neu ganiatáu i rywun arall fynd i’r afael â hwy – rhaid ichi ein hysbysu’n ysgrifenedig a chael caniatâd gennym.

Dylech fod wedi cael copi o’r rhestr pan gafodd y safle ei ddynodi. Gallwch hefyd ddod o hyd i’r rhestr trwy ddefnyddio ein chwiliad safleoedd dynodedig.

Ein hysbysu

Anfon hysbysiad i wneud gwaith.

Dylech ddweud wrthym yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud, a rhoi manylion inni ynglŷn â ble, pryd a sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud.

Atodwch gynlluniau, ffotograffau, datganiadau dull neu fapiau a all, yn eich tyb chi, ein helpu i asesu effaith bosibl y gweithgaredd.

Fel arall gallwch anfon e-bost i SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk, neu anfon yr wybodaeth yn ysgrifenedig i’ch swyddfa Cyfoeth Naturiol Cymru leol.

Rhaid inni ymateb i’ch hysbysiad o fewn 4 mis, ond fel arfer byddwn yn ymateb yn llawer cynt.

Os na fyddwch yn cael penderfyniad ynglŷn â chaniatâd o fewn 4 mis, dylech gymryd bod y caniatâd wedi’i wrthod.

Ein penderfyniadau

Fel arfer, bydd modd inni roi caniatâd. Efallai y byddwn yn ychwanegu amodau, er enghraifft pryd, ble neu sut y dylid mynd i’r afael â’r gweithgaredd. Pwrpas hyn yw diogelu nodweddion y safle.

Os byddwn o’r farn fod rhyw gynnig yn debygol o niweidio’r safle, ac na ellir ei liniaru trwy gyflwyno amodau, efallai y byddwn yn gwrthod rhoi caniatâd.

Mae achosion o wrthod rhoi caniatâd yn brin. Os bydd gennym bryderon, byddwn yn gweithio gyda chi i wneud y cynnig yn fwy derbyniol.

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniadau. Byddwn yn anfon y weithdrefn apelio atoch gyda’n llythyr penderfynu.

Adegau pan nad oes angen caniatâd

Gweithgareddau y tu allan i derfynau’r SoDdGA

Ni fyddwch angen caniatâd os bydd y gweithgaredd yn cael ei wneud y tu allan i derfynau’r SoDdGA.

Gofynnwch am gyngor gan swyddog cadwraeth y safle os credwch y gallai eich gweithgaredd arfaethedig effeithio ar y SoDdGA. Pe baech yn niweidio’r SoDdGA, hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio y tu allan iddo, efallai y byddwch yn dal i gyflawni trosedd.

Gwaith mewn argyfwng

Ni fyddwch angen caniatâd ar gyfer gwaith mewn argyfwng gwirioneddol – er enghraifft, pe baech angen gweithredu’n ddi-oed i reoli perygl uniongyrchol i fywyd neu eiddo.

Rhaid ichi roi gwybod inni cyn gynted ag sydd bosibl ar ôl cychwyn gwaith brys. E-bostiwch SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm).

Pe bai niwed yn dod i ran y safle oherwydd gwaith mewn argyfwng, dylech roi gwybod i’r llinell argyfwng.

Os os angen gwneud y gwaith ar frys, ond os nad yw’n argyfwng, byddwch angen ein caniatâd. Gwnewch hyn yn glir wrth gyflwyno eich hysbysiad ac fe wnawn ein gorau i’w brosesu’n ddi-oed.

Caniatâd cynllunio a thrwyddedau eraill

Os yw eich gwaith wedi cael caniatâd cynllunio, ni fyddwch angen ein caniatâd ni.

Os yw awdurdod cyhoeddus wedi rhoi trwydded ichi ar gyfer y gwaith, ni fyddwch angen ein caniatâd ni cyn belled â’u bod wedi ystyried yr effeithiau posibl ar y SoDdGA gyda ni’n ffurfiol. Gwiriwch hyn gyda’r awdurdod cyhoeddus. Os nad ydynt wedi gwneud hyn, neu os ydych yn ansicr, gofynnwch inni am ganiatâd.

Gwaith ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus

Gall ymgymerwyr statudol a chyrff cyhoeddus fod â phwerau i fynd ar dir i wneud gwaith. Mewn achosion o’r fath, fe fydd ganddynt eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer cael caniatâd i weithio mewn SoDdGA.

Os oes ganddynt bwerau’n ôl y gyfraith i fynd ar eich tir i wneud gwaith, byddant yn eich hysbysu.

Fodd bynnag, os byddant yn gofyn am eich caniatâd i wneud gwaith yn eich SoDdGA, efallai y byddwch angen ein caniatâd ni cyn y gallwch gytuno.

Os bydd rhywun yn cynnig gwneud rhyw waith ar dir sy’n eiddo i chi, a allai effeithio ar SoDdGA, y peth gorau i’w wneud yw siarad gyda ni yn gyntaf.

Pe baech yn gwneud gwaith heb ganiatâd

Pe baech yn mynd i’r afael â gweithgaraedd a nodir ar y rhestr OLDSI (neu’n caniatáu i rywun arall wneud hynny) heb ein caniatâd ni, byddwch yn cyflawni trosedd oni bai y bydd un o’r eithriadau’n berthnasol. Mae’n drosedd hefyd mynd i’r afael â gweithgaredd a nodir ar y rhestr heb ddilyn yr amodau a’r terfynau amser a bennwyd gennym yn y caniatâd.

Pe baech yn niweidio nodweddion y safle, efallai y byddwch yn cael eich erlyn, yn cael eich dirwyo, ac yn cael eich gorfodi i drwsio’r difrod ar eich traul eich hun.

Rhoi gwybod am newidiadau i berchnogaeth a thenantiaeth

Rhaid ichi roi gwybod inni am unrhyw newidiadau i berchnogaeth neu denantiaeth tir oddi mewn i SoDdGA o fewn 28 diwrnod:

  • werthu’r tir
  • ganiatáu neu newid tenantiaethau
  • werthu neu brydlesu hawliau hela
  • ganiatáu ffyrddfreintiau neu hawddfreintiau neu ildio unrhyw hawliau

Rhowch wybod inni trwy e-bostio SSSI.notices@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm).

Gallai methu â gwneud hynny fod yn gyfystyr â throsedd a gallech fod yn atebol, dan euogfarn ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na £200.

Nid oes yn rhaid ichi ddweud wrthym am drwyddedau pori tymhorol. Ond dylech hysbysu’r trwyddedeion ynghylch y dynodiad SoDdGA a’r rhestr o weithgareddau sy’n debygol o niweidio’i nodweddion arbennig.

Rheoli eich safle

Mae gan bob SoDdGA ddatganiad rheoli safle. Mae hwn yn nodi pam y mae safle’n arbennig a sut y dylid ei reoli. Chwiliwch am ddatganiad eich safle chi trwy ddefnyddio’r chwiliad safleoedd dynodedig.

Efallai y bydd modd inni gynnig cytundeb rheoli ichi ar gyfer eich SoDdGA. Golyga hyn y byddwch yn cael taliad os cytunwch i reoli’r tir mewn ffordd arbennig. Mae’r rhain yn para am bum mlynedd o leiaf.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau amaeth-amgylcheddol, fel Glastir. Bydd angen ichi gytuno i reoli eich safle er budd ei nodweddion arbennig.

Siaradwch gyda’r swyddog cadwraeth sy’n gyfrifol am eich safle i gael mwy o wybodaeth.

Ymweliadau gan ein swyddogion

Efallai y byddwn yn ymweld â’ch safle i asesu ei gyflwr. Yn ogystal â rhoi cyngor ichi ynghylch ffynonellau cyllid, gallwn drafod arferion rheoli a’r gyfraith ar gyfer diogelu eich safle.

Niweidio SoDdGA

Os na fydd eich SoDdGA yn cael y gofal priodol, neu os caiff ei niweidio, byddwn yn ceisio datrys y broblem gyda chi. Byddwn yn rhoi cyngor ichi ac yn gweithio gyda chi i ddod i gytundeb. Os na fydd hyn yn bosibl, gallwn wneud y canlynol:

  • Anfon llythyr rhybuddio
  • Anfon cynllun rheoli yn esbonio sut y dylid rheoli’r safle – naill ai gyda chynnig ariannol, neu heb un
  • Anfon hysbysiad rheoli yn mynnu bod gwaith penodol yn cael ei wneud (pe bai’r cynllun yn cael ei wrthod neu os methir â chydymffurfio ag ef)
  • Mynd ar y safle i gwblhau’r gwaith a nodir yn yr hysbysiad rheoli (gan adennill y costau gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo)
  • Dwyn achos cyfreithiol, a allai arwain at ddirwy a gorchymyn gan y llys yn mynnu bod y safle’n cael ei adfer ar draul y troseddwr
  • Mewn amgylchiadau eithriadol, dilyn gorchymyn prynu gorfodol

Rhowch wybod inni am niwed i SoDdGA trwy ffonio ein llinell argyfwng.

Pan fyddwn yn dynodi neu’n newid SoDdGA

Mae gennym bwerau i wneud y canlynol:

  • Dynodi SoDdGA newydd
  • Ymestyn SoDdGA presennol
  • Dileu statws gwarchodedig rhywfaint o’r tir, neu’r holl dir, mewn SoDdGA
  • Newid unrhyw rai o fanylion y SoDdGA, fel y rhestr o weithgareddau y mae angen caniatâd i’w gwneud

Os bydd unrhyw un o’r newidiadau hyn yn effeithio ar dir rydych chi’n berchen arno neu’n ei feddiannu, byddwn yn cysylltu â chi.

Bydd gennych o leiaf 3 mis i ymateb gyda sylwadau. Bydd modd ichi gyflwyno gwrthwynebiad os bydd tir newydd yn cael ei ddynodi’n SoDdGA.

Os bydd eich tir chi’n cael ei ddynodi’n SoDdGA, ni fydd hynny’n rhoi hawl i’r cyhoedd gael mynd arno.

Diweddarwyd ddiwethaf