Bydd rhai cynigion yn amlwg yn golygu trawsleoliad cadwraeth, ond i eraill efallai na fydd yn mor glir

Wrth benderfynu a yw'r canllawiau'n berthnasol, dylid ystyried dau gwestiwn sylfaenol:

  • Ai trawsleoliad ydyw?
  • Ai trawsleoliad cadwraeth ydyw?

Dim ond at rywogaethau sy'n cael eu hailgyflwyno neu eu trawsleoli at ddibenion cadwraeth y mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio. Mae unrhyw rywogaeth sy'n cael ei chyflwyno neu ei thrawsleoli at ddibenion adfer cynefinoedd neu reoli stoc pysgodfeydd y tu allan i gwmpas y canllawiau hyn.

Ai trawsleoliad ydyw?

Bydd trawsleoliad bob amser yn golygu rhyddhau anifail neu blanhigyn i'r gwyllt. Mewn rhai achosion, er mai dyma fyddai'r amcan yn y pen draw, efallai na fydd rhyddhau'n digwydd am gyfnod o amser.  Ni fydd cynigion nad ydynt yn cynnwys rhyddhau yn dod o dan y diffiniad hwn.

Mae angen beirniadu hyn yn ofalus. Dylid ystyried rhyddhau rhywogaethau i ardaloedd o dir preifat lle na ellir sicrhau ataliaeth effeithiol fel rhyddhau i'r gwyllt. Er enghraifft, mae rhyddhau afancod i gau tir yn cael ei ystyried yn rhyddhad “i’r gwyllt”. Gweler trwyddedu afancod.

Mae rhaglenni magu mewn caethiwed yn aml yn cynnwys casglu stoc bridio o boblogaeth wyllt, magu eu hepil a'u rhyddhau wedi hynny. Fodd bynnag, gellir defnyddio stoc bridio o boblogaeth gaeth sy'n bodoli eisoes hefyd:

  • Bydd rhyddhau epil a aned mewn rhaglen fridio mewn caethiwed i'r gwyllt yn cyfri fel trawsleoliad, waeth lle mae tarddle'r stoc fridio.
  • Pan gesglir anifeiliaid unigol o'r gwyllt i'w defnyddio fel stoc bridio, rhaid dilyn a chytuno ar y broses trawsleoli cadwraeth a ddisgrifir yma cyn casglu unrhyw anifeiliaid llawndwf. Mae hyn er mwyn osgoi'r posibilrwydd y bydd yn rhaid dinistrio epil a fagwyd mewn caethiwed pe bai'r trawsleoliad cadwraeth yn cael ei wrthod.

Ni fydd rhyddhau i'r gwyllt, ond o fewn cwmpas y byddai disgwyl i unigolyn symud yn rhesymol o'i fewn yn naturiol, yn debygol o gael ei ystyried yn drawsleoliad. Mewn achosion o'r fath, byddem yn ystyried hyn fel achos o ailryddhau i'r un ardal. Er enghraifft, pan gaiff anifail gwyllt ei gymryd i gaethiwed dros dro am resymau lles—megis salwch, neu anaf—ac yna ei ddychwelyd i'r gwyllt yn ddiweddarach.

Pan gaiff anifail gwyllt ei gymryd dros dro o'r gwyllt at ddibenion gwyddonol ac yna ei ddychwelyd i'r gwyllt – ni fyddai hyn yn gyfystyr â thrawsleoliad. Fodd bynnag, efallai y bydd angen trwydded rhywogaeth neu drwydded y Swyddfa Gartref o hyd.

Ai trawsleoliad cadwraeth ydyw?

Er mwyn ei ystyried fel 'trawsleoliad cadwraeth', dylai'r buddion arfaethedig fynd y tu hwnt i ddiogelu'r unigolion a drawsleolwyd yn unig.

Rhaid i fuddion fod yn fesuradwy ar raddfa poblogaeth, neu drwy ddefnyddio metrig perthnasol arall sy'n ymwneud â byd natur, ar gyfer y rhywogaeth dan sylw (e.e. gweithio tuag at gyflawni statws cadwraethol ffafriol). 

Ni fydd rhyddhau i'r gwyllt, ond o fewn cwmpas y byddai disgwyl i unigolyn symud yn rhesymol o'i fewn yn naturiol, yn debygol o gael ei ystyried yn drawsleoliad. Mewn achosion o'r fath, byddem yn ystyried hyn fel achos o ailryddhau i'r un ardal. Er enghraifft, pan gaiff anifail gwyllt ei gymryd i gaethiwed dros dro am resymau lles—megis salwch neu anaf—ac yna'i ddychwelyd i'r gwyllt, nid yw hyn yn cyfrif fel trawsleoliad cadwraeth.

Mae unrhyw rywogaeth sy'n cael ei chyflwyno neu ei symud at ddibenion adfer cynefinoedd y tu allan i gwmpas y canllawiau hyn, e.e. defnyddio gwair 'gwyrdd', plannu coed.

Pan gaiff anifail gwyllt ei gymryd dros dro o'r gwyllt at ddibenion gwyddonol ac yna ei ddychwelyd i'r gwyllt – ni fyddai hyn yn gyfystyr â thrawsleoliad cadwraeth. Fodd bynnag, efallai y bydd angen trwydded rhywogaeth neu drwydded y Swyddfa Gartref o hyd.

Bydd ail-ryddhau unigolion – a gafwyd o'r gwyllt ac a fagwyd mewn caethiwed cyn cael eu dychwelyd naill ai i'r safle lle cawsant eu cymryd neu i safle newydd er mwyn cryfhau poblogaethau – yn cael ei ystyried yn drawsleoliad cadwraeth. 

Rhaid caniatáu amser i unrhyw rywogaeth sy'n destun trawsleoliad cadwraeth ymsefydlu yn yr amgylchedd ac ni ddylid ei hail-ddal neu ei chynaeafu.

Enghreifftiau damcaniaethol o drawsleoliadau cadwraeth posibl

Enghraifft 1

Bydd gwiwerod coch wedi eu bridio mewn caethiwed yn cael eu rhyddhau i goetir lleol i hybu poblogaeth sy'n lleihau. Gobeithir y bydd arolygon i ddod yn nodi bod y boblogaeth wedi sefydlogi neu gynyddu.

Mae hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Mae bwriad clir i gyflwyno budd cadwraeth fesuradwy ar raddfa poblogaeth. Mae rhyddhau stoc a fridiwyd mewn caethiwed i'r gwyllt wedi'i gynnwys yng nghanllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Enghraifft 2

Bydd rhywogaethau o goed estron nas defnyddiwyd o'r blaen yn cael eu plannu mewn coedwig fasnachol. Dengys gwaith ymchwil fod gan y rhywogaeth lawer o botensial i ddarparu cnydau biomas.

Nid yw hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Ni fwriedir cyflwyno unrhyw fudd cadwraeth mesuradwy; mae'r amcanion yn rhai masnachol yn unig.

Enghraifft 3

Bydd misglod perlog yr afon sydd wedi eu magu mewn caethiwed yn cael eu rhyddhau i afon i atgyfnerthu'r boblogaeth bresennol. Gobeithir y bydd arolygon i ddod yn nodi bod y boblogaeth wedi sefydlogi neu gynyddu.

Mae hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Mae bwriad clir i gyflwyno budd cadwraeth fesuradwy ar raddfa poblogaeth. Mae rhyddhau stoc a fridiwyd mewn caethiwed i'r gwyllt wedi'i gynnwys yng nghanllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Enghraifft 4

Cynigir rhyddhau brithyllod sydd wedi'u magu mewn caethiwed i afon neu ddŵr llonydd i ddarparu stoc at ddiben pysgota hamdden yn unig.

Nid yw hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Byddai'r gweithgaredd hwn yn cael ei gynnal at ddibenion rheoli pysgodfeydd nid cadwraeth rhywogaethau.

Enghraifft 5

Cynigir atgyfnerthu poblogaeth o dafol y traeth trwy gyflwyno planhigion sydd wedi’u lluosogi y tu allan i’w cynefin naturiol, o hadau a gasglwyd o’r safle hwnnw, i safle lle mae’r planhigyn eisoes yn bresennol.

Mae hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Mae budd cadwraeth clir i'r atgyfnerthu gan y bydd yn cryfhau'r boblogaeth bresennol. Mae’r weithred o gasglu hadau a’u lluosogi i'w rhyddhau yn y gwyllt wedi'i gwmpasu gan ganllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.

Enghraifft 6

Cynigir ailgyflwyno morwellt mewn ardal o aber trwy ddefnyddio bagiau hadau a thrawsblannu rhisomau er mwyn helpu i ehangu cynefin morwellt, creu cynefinoedd magu ar gyfer pysgod, a gweithredu fel dalfa garbon.

Nid yw hwn yn drawsleoliad cadwraeth. Er bod budd cadwraeth clir gan ei fod yn adfer rhywogaeth sydd wedi'i cholli i'r ardal, y prif nod yw adfer cynefin a swyddogaeth ecosystem trwy greu cynefin ar gyfer rhywogaethau eraill.

Trawsleoliadau a chynllunio datblygiadau

Prif amcan y rhan fwyaf o gynigion trawsleoli sy'n gysylltiedig â chynllunio fydd caniatáu i ddatblygiad ddigwydd trwy adleoli anifeiliaid unigol rhywogaeth a warchodir er mwyn osgoi effeithiau niweidiol ar boblogaeth leol.

Mewn achosion prin, gall fod achosion pan fydd trawsleoliad arfaethedig yn ceisio sicrhau buddion cadwraeth ehangach, er mwyn cefnogi cadwraeth rhywogaeth sy'n dod o'r safle datblygu. Dim ond yn yr achosion hyn yn unig fydd canllawiau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn gymwys. Mae'n debygol y bydd achosion o'r fath yn gyfyngedig i gynlluniau mawr megis prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol a phrosiectau seilwaith arwyddocaol.

Wrth ystyried adleoli sy'n gysylltiedig â chynllunio, gofynnwch y cwestiwn canlynol:

  • Ai’r bwriad yw bod y trawsleoliad o fudd i boblogaeth wahanol, yn ogystal â'r unigolion a achubwyd, a/neu fod symud yr unigolion hyn yn anelu at gyflawni canlyniadau cadwraeth penodol yn y safle rhyddhau neu yn yr amgylchedd ehangach?

Os byddwch yn ateb “nage” i’r cwestiwn hwn, dylech ymgynghori â’r tîm rhywogaethau a warchodir yn unol ag arfer arferol a pharhau i asesu’r cais drwy’r llwybrau cynllunio arferol.

Os atebwch “ie” rhaid i chi ymgynghori â’r cydlynydd trawsleoliadau cadwraeth: ConservationTranslocations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Bydd yn rhoi cyngor cychwynnol ynghylch a yw'r cynnig yn bodloni'r diffiniad, ac os felly, yn cytuno ar rolau ac amserlenni ar gyfer ei ystyried. Darperir y cyngor cychwynnol hwn o fewn 10 diwrnod gwaith ar gyfer achosion cynllunio datblygu. Os yw hyn yn peri problem, gellir cytuno ar derfyn amser arall.

Enghreifftiau damcaniaethol o drawsleoliadau cadwraeth posibl sy'n ymwneud â chynllunio datblygiadau

Enghraifft 1

Bydd datblygiad tai newydd yn arwain at golli cynefin madfallod dŵr cribog. Bydd unigolion sydd mewn perygl yn cael eu cludo o safle datblygu a'u rhyddhau i ardal gynefin gyfagos nad yw mewn perygl o ganlyniad i’r datblygiad.

Nid yw hwn yn drawsleoliad cadwraeth gan y byddai o fudd i’r unigolion sydd wedi'u trawsleoli a'r boblogaeth leol sydd mewn perygl o'r datblygiad yn unig, ac nid yw'n cynnig unrhyw fuddion ecolegol ehangach.

Enghraifft 2

Bydd llygod pengrwn y dŵr sydd mewn perygl yn cael eu symud o'r safle datblygu a'u rhyddhau i safle addas arall lle mae'r boblogaeth yn lleihau. Y nod yw diogelu unigolion mewn perygl ac atgyfnerthu poblogaeth y derbynnydd.

Mae hwn yn drawsleoliad cadwraeth oherwydd bwriedir i'r adleoli fod o fudd i boblogaeth y derbynnydd, nid dim ond i'r unigolion a effeithir gan y datblygiad.

Diweddarwyd ddiwethaf